Defnyddio’r wefan hon
Freshwater sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Beth i’w wneud os na fedrwch ddefnyddio rhannau o’r wefan hon:
Os oes angen yr wybodaeth ar y wefan hon mewn fformat arall fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:
- e-bostiwch: parenting@llyw.cymru
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi eto cyn pen 10 diwrnod gwaith.
Adrodd am broblemau sy’n gysylltiedig ag hygyrchedd y wefan hon
Rydym yn awyddus bob amser i wella hygyrchedd y wefan. Os byddwch yn ymwybodol o unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os na fyddwch o’r farn ein bod yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â ni ar parenting@llyw.cymru.
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn bersonol
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy’n fyddar, sydd â nam ar eu clyw neu sydd â nam lleferydd.
Mae dolenni sain i’w cael yn ein swyddfeydd, neu os gysylltwch chi â ni cyn ichi ymweld gallwn drefnu bod dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn bresennol.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1.
Sut y profwyd y wefan hon
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 28/04/2021. Cynhaliwyd y prawf gan Freshwater.
Profwyd: https://magurplantgydangilydd.llyw.cymru/ – gwasanaeth ar blatfform technegol gwahanol ond wedi’i ddylunio i edrych fel gwefan llyw.cymru.
Paratowyd y datganiad hwn ar 25/05/2021.