Gadewch i’ch plant fod yn blant

Mae gwahanu yn anodd i bawb ac rydych o bosibl yn teimlo eich bod yn amddiffyn eich plentyn drwy gadw pethau oddi wrthynt. Fodd bynnag, mae plant yn aml yn teimlo’n ddi-rym ac yn ddryslyd os nad ydynt yn gwybod beth sy’n digwydd. Gallwch eu helpu drwy ddweud wrthynt mewn ffordd sy’n hawdd iddynt ddeall; nid oes angen iddynt wybod pob manylyn, ond mae angen iddynt wybod am y pethau a fydd yn effeithio arnyn nhw.

Bydd plentyn yn aml yn credu ei fod wedi gwneud rhywbeth i achosi i’w rieni wahanu ac mai ef/hi sydd ar fai. Mae angen i’r ddau riant roi gwybod iddynt nad nhw sydd ar fai gan gofio y gallai fod angen ichi ddweud hyn fwy nag unwaith wrthynt.

Gall fod yn anodd cydnabod teimladau eich plentyn. Nid oes unrhyw un yn hoffi gweld eu plentyn yn brifo a gall fod yn demtasiwn ceisio gwneud pethau’n well drwy brynu danteithion neu anrhegion drud iddynt. Gall hyn arwain at broblemau yn y dyfodol oherwydd buan iawn y byddant yn dysgu bod teimlo’n drist a chrio yn golygu y bydd Mam neu Dad yn eu “difetha” nhw. Mae angen iddynt deimlo eu bod yn gallu mynegi eu teimladau heb gael eu dysgu i droi at gysuron i’w helpu. Helpwch nhw i ddweud wrthych sut maen nhw’n teimlo a mynegi eu hunain mewn ffyrdd iach; dywedwch wrthynt ei bod yn iawn teimlo’n drist a chrio, a dywedwch wrthynt eich bod chithau’n teimlo’n drist weithiau hefyd.

Nid oes angen i blentyn deimlo mai eu cyfrifoldeb nhw ydy gwneud penderfyniadau ond mae angen eu holi ac iddynt deimlo eu bod wedi cael gwrandawiad. Gallwch wrando arnynt pan fyddant yn dweud wrthych beth maent ei eisiau, a hefyd ei gwneud yn glir y byddwch yn rhoi ystyriaeth i’w teimladau er na allwch bob amser roi popeth y maent ei eisiau iddynt. Drwy wneud hyn byddwch yn dangos iddynt eich bod yn deall sut maen nhw’n teimlo.

Bydd plentyn yn aml yn poeni am gael eu gadael gan eu rhieni; wedi’r cyfan os ydych wedi gadael eich gilydd gallech wneud yr un peth iddynt hwy. Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod iddynt, hyd yn oed os ydy rhieni’n gallu stopio caru ei gilydd, bod y cariad sydd gennych atyn nhw yn para am byth a’i bod yn iawn iddyn nhw garu’r ddau riant heb orfod cymryd ochrau.

Ticiwch y blwch siec i olrhain eich cynnydd drwy'r canllaw.

Clipboard Icon
Eich canllaw cymorth
Yn y canllaw hwn
Character icon for support guide menu header
Support guide
Cynnydd Cyffredinol