Beth mae plentyn ei angen

Gall gweld neu glywed rhieni yn ffraeo neu’n lladd ar ei gilydd yn barhaus gael effaith fawr ar y ffordd y mae plant yn addasu i’r ffaith bod eu rhieni’n gwahanu. Mae angen iddynt allu gwahanu eu hunain oddi wrth y gwrthdaro a pheidio â theimlo fel pe baent yn cael eu dal yn y canol.

Gallwch ddysgu eich plentyn bod yna ffyrdd positif o ddelio â gwrthdaro drwy ddysgu’r ffyrdd hynny eich hun.

Gall plentyn dderbyn newid cyn belled nad oes gormod yn digwydd ar y tro a’u bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Os ydynt yn teimlo bod lle iddynt yn y ddau gartref byddant yn teimlo’n fwy diogel.

Weithiau gall plentyn gymryd gormod o gyfrifoldeb a “bod yn rhiant” i’w rhieni a’u brodyr a’u chwiorydd. Gall rhywun sy’n edrych ar blentyn sy’n ymddwyn fel hyn yn hawdd feddwl eu bod yn ymdopi’n dda iawn ac nad ydynt yn gofidio’n ormodol. Gall hyn ddigwydd yn aml pan fo rhieni dan straen. Fodd bynnag, efallai na fydd effaith hyn yn ymddangos nes bydd eich plentyn yn dod yn oedolyn a gall effeithio ar eu perthnasoedd fel oedolion.

Efallai y gwelwch fod eich plentyn yn help mawr i chi ac yn ymdopi’n dda iawn, ond wrth ichi ddechrau dod dros ddiwedd eich perthynas gall ymddangos nad yw eich plentyn yn ymdopi mwyach a’i fod yn eithaf gofidus. Bydd angen ichi wedyn adael iddynt ymddwyn fel plentyn a rhoi gwybod ei bod yn iawn teimlo’n drist neu’n ddig. Mae’n bosibl i’r plentyn fynd yn ôl i gam datblygiadol cynharach; dros dro yn unig fydd hyn. Rhowch amser a sylw i’ch plentyn a hefyd ei annog i siarad ag athro/athrawes mae’n ymddiried ynddo/ynddi, aelod o’r teulu neu gwnselydd.

Gall plentyn gael ymdeimlad mawr o golled pan fydd rhieni’n gwahanu a gall neiniau a theidiau ac aelodau eraill o’r teulu chwarae rhan bwysig iawn yn eu bywyd. Gall cadw mewn cysylltiad roi iddynt ymdeimlad parhaus o deulu, cariad, a pherthyn, hyd yn oed pan mae pethau ar eu hanoddaf. Mae ffrindiau hefyd yn gallu rhoi cysur ac ymdeimlad o barhad – siaradwch gyda’ch plentyn am y bobl bwysig o’u cwmpas a sut gallant gadw mewn cysylltiad, yn enwedig os ydych yn ystyried symud tŷ. Weithiau efallai y bydd angen cefnogaeth ychwanegol ar blentyn; gallwch siarad ag athrawon eich plentyn neu eich meddyg teulu os ydych yn teimlo y gallai cwnsela fod o gymorth.

Beth mae plentyn ei angen:

  1. Cael caniatâd i ymbellhau oddi wrth wrthdaro eu rhieni
  2. Cael trefn gyda ffiniau cyson o fewn yr un cartref
  3. Gwybod bod ganddynt ddau gartref lle maent yn perthyn
  4. Gallu cadw mewn cysylltiad â’u teulu estynedig fel neiniau a theidiau, modrybedd, ewythrod a chefndryd a chyfnitherod
  5. Cael mynediad i fathau eraill o gymorth os ydynt yn dymuno hynny
  6. Cael gobaith ar gyfer y dyfodol
  7. Yn anad dim – cael yr hawl i fod yn blentyn.

Ticiwch y blwch siec i olrhain eich cynnydd drwy'r canllaw.

Clipboard Icon
Eich canllaw cymorth
Yn y canllaw hwn
Character icon for support guide menu header
Support guide
Cynnydd Cyffredinol