I unrhyw deulu sy’n mynd trwy’r broses o wahanu, mae cyfathrebu’n hynod o bwysig. Mae siarad â’ch plentyn am wahanu, a gwrando arno/arni i sicrhau eich bod chi’n deall ei anghenion a’i bryderon, yn sgiliau hanfodol. Dyma’r meysydd yr eir i’r afael â nhw yn yr adran hon:
- Pryd i ddweud wrth eich plentyn eich bod chi’n gwahanu a rhagweld unrhyw gwestiynau y bydd yn eu gofyn
- Datblygu eich ‘parodrwydd’ emosiynol a gwrando ar eich plentyn
- Deall pryderon eich plentyn a gweld pethau o’i safbwynt ef/hi
- Cysuro eich plentyn, wrth barhau’n onest a realistig
- Sut bydd eich plentyn yn ymateb, gan ddibynnu ar ei oed
- Helpu eich plentyn i gynnal perthnasoedd â theulu a ffrindiau ar ôl i chi wahanu.