Beth nad oes ei angen ar blentyn

Gall gwrthdaro rhwng rhieni fod yn niweidiol iawn i blant, yn enwedig os ydych yn ffraeo yn eu cylch nhw oherwydd fe all hyn wneud iddynt deimlo’n gyfrifol am y ffraeo a’r gwahanu. DS ymchwil yr Athro Harold ar effaith gwrthdaro rhwng rhieni ar ddatblygiad plentyn. Pan fyddwch yn beirniadu rhiant arall eich plentyn neu’n gwneud sylwadau gwawdlyd amdanynt, byddwch yn rhoi eich plentyn yng nghanol y gwrthdaro a gallant deimlo bod yn rhaid iddynt ddewis rhyngoch.

Er bod angen ichi fod yn onest gyda’ch plentyn, nid oes angen iddo/iddi wybod yr holl fanylion ynglŷn â pham eich bod wedi gwahanu nac am faterion ariannol. Bydd hyn ond yn gwneud iddynt deimlo’n ddryslyd ac yn ansicr. Ceisiwch beidio â gofyn iddynt fod yn ganolwr neu’n negesydd na gofyn cwestiynau busneslyd am yr hyn sy’n digwydd yn y cartref arall. Gall plant deimlo’n chwerw iawn os credant eu bod yn cael eu defnyddio fel hyn. Ceisiwch gyfathrebu mor uniongyrchol â phosibl gyda rhiant arall eich plentyn.

Gall pethau fel p’un ai chi yw’r un sydd wedi gadael neu’r un sydd wedi cael eich gadael, lefel y gwrthdaro gyda rhiant arall eich plentyn, newidiadau economaidd, faint o ran sydd gennych mewn materion cyfreithiol a pha wybodaeth neu systemau cymorth sydd ar gael ichi, effeithio ar y ffordd rydych yn magu eich plant. Gall hyn arwain at deimladau o euogrwydd neu eich bod wedi eich bradychu, eich llethu a dan straen. Gallech fynd yn ansensitif i effaith y gwahanu ar eich plentyn a hefyd ymbellhau’n emosiynol ac yn gorfforol, gan arwain at ddulliau magu plant anghyson.

Mae llawer o awgrymiadau a chynghorion yn y canllaw hwn a all eich helpu i reoli sut rydych yn magu eich plant.

Beth nad oes ei angen ar blentyn:

  1. Clywed neu weld eu rhieni yn cwyno am ei gilydd, neu’n beio ei gilydd
  2. Clywed beirniadaeth neu sylwadau negyddol am y naill riant neu’r llall
  3. Gwybodaeth am y rhesymau am y gwahanu neu fanylion ariannol, gan gynnwys cynhaliaeth plant, sy’n fwy addas i’w rhannu ag oedolion
  4. Teimlo y gallai rhywun ofyn iddynt ddewis un rhiant dros y llall
  5. Pasio negeseuon o un rhiant i’r llall
  6. Teimlo’n anghyfforddus yng nghartref un rhiant.

Ticiwch y blwch siec i olrhain eich cynnydd drwy'r canllaw.

Clipboard Icon
Eich canllaw cymorth
Yn y canllaw hwn
Character icon for support guide menu header
Support guide
Cynnydd Cyffredinol