Weithiau gall deimlo bod pob sgwrs rydych yn ei chael yn troi a throi mewn cylch cas. Yna, byddwch yn dechrau teimlo’r straen, bydd eich corff yn rhyddhau llawer o gemegau sy’n gallu effeithio ar sut rydych yn meddwl, ac efallai y byddwch yn dechrau teimlo’n ddig neu deimlo fel rhedeg i ffwrdd. Os yw hyn yn swnio fel y math o beth sy’n digwydd i chi, rhowch gynnig ar ddefnyddio’r technegau canlynol:
Lleihau eich lefelau straen
- Ymlaciwch eich ysgwydda
- Anadlwch yn ddwfn ac, yn fwriadol, anadlu’n arafach. Mae hyn yn helpu i newid y cemegau straen y mae eich corff yn eu cynhyrchu a gall eich helpu i ymdawelu
- Pan fydd pethau’n poethi, peidiwch ag aros i’r unigolyn arall bwyllo. Awgrymwch gymryd seibiant
- Os yw’r ddau ohonoch yn methu ag ymdawelu:
– stopiwch y drafodaeth
– awgrymwch ddewis amser arall gwell, os yn bosibl, mewn lle niwtral heb y plentyn.
Gwrando ar yr hyn sy’n cael ei ddweud
- Gwrandewch yn astud – po fwyaf y gwrandewch y mwyaf y clywch
- Ceisiwch ganolbwyntio fel nad yw eich sylw’n cael ei rannu
- Dangoswch barch – os yw’r naill yn dangos parch mae’r llall yn fwy tebygol o wneud yr un fath
- Gadewch seibiau, peidiwch â neidio iddynt
- Ceisiwch beidio â chynhyrfu, hyd yn oed os nad ydych yn teimlo felly.
Ymateb mewn ffordd sydd ddim yn wrthdrawiadol. Byddwch yn glir, glynwch wrth y pwynt a pharchu’r unigolyn arall.
- Osgowch newid y pwnc neu dorri ar draws yn ddiangen
- Ceisiwch bwyso a mesur barn y llall, gan ofyn cwestiynau.
Hawlio perchnogaeth dros yr hyn a ddywedwch
- Defnyddiwch ddatganiadau ‘fi’
- Geiriwch bethau mewn ffordd sy’n ymwneud â’r hyn rydych chi’n ei feddwl neu’r ydych chi wedi’i nodi neu ei eisiau, ddim yr hyn rydych yn tybio neu’n ‘gwybod’ y mae’r llall ei eisiau.
For example:
“Rwy’n teimlo’n ddig pan wyt ti’n fy holi am arian o flaen y plant.”
Yn hytrach na…
“Ti wastad yn ceisio codi helynt drwy holi am arian. Ti’n gwybod mod i’n casáu hynny.”
Ceisiwch ddefnyddio’r dull isod o fynegi eich hun:
- Dywedwch beth sydd wedi digwydd heb feio, beirniadu na barnu
- Dywedwch sut rydych yn teimlo pan fyddwch yn gweld neu’n clywed beth sydd wedi digwydd
- Dywedwch beth mae arnoch chi angen ei weld yn digwydd
- Gofynnwch am newid.
Think about your own examples – it may help to write them down:
Rwy’n teimlo… pan wyt ti’n…
a hoffwn iti…
Os nad yw hyn yn gweithio, rhowch gynnig ar ffordd ychydig yn wahanol o fynegi’r hyn rydych eisiau ei ddweud…
“Pan YDYM yn siarad am arian o flaen y plant, MAE’N troi’n broblem.” “Gawn NI siarad am hyn rywbryd eto?”
Cynigiwch – “Pryd fyddai’n hwylus i ti?”