Gofalu amdanoch chi eich hun

  • Y peth gorau y gallwch ei wneud ar gyfer eich plentyn yw gofalu amdanoch eich hun. Drwy gymryd camau ymlaen i chi eich hun, byddwch yn helpu eich plentyn hefyd
  • Gwnewch bethau dim ond er eich mwyn eich hun – trefnwch faldod ichi eich hun, ymweld â ffrindiau, darllen, gwneud amser ichi eich hun ac yn y blaen
  • Bwytewch yn iawn a chael digon o gwsg ac ymarfer corff
  • Ceisiwch gyfyngu faint o egni emosiynol a rowch i’r gwrthdaro
  • Mynegwch eich teimladau drwy siarad â ffrind. Rhyddhewch y tensiwn drwy wneud ymarfer corff
  • Er bod gwahanu yn broses boenus i rieni a phlant, cofiwch fod pethau’n newid gydag amser.

Gofynnwch i chi eich hun ‘Os ydw i wedi blino’n lân yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol, sut gallaf fi fod ar gael i ofalu orau am fy mhlentyn?’

Mae gennych hawl i’ch teimladau. Fodd bynnag, mae’r hyn rydych yn ei wneud â nhw yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr ym mywyd eich plentyn. Nid yw’n iach cadw eich dicter y tu mewn, ei fynegi yn ymosodol, na defnyddio eich plentyn i ddial ar riant arall eich plentyn.

Dywedwch wrthoch eich hun ei bod yn iawn teimlo’n flin neu’n drist. Gallwch fynegi eich teimladau drwy siarad â ffrind neu gwnselydd, drwy ymuno â grŵp cymorth neu drwy wneud ymarfer corff.

Os mai chi yw’r un a adawodd, rydych yn debygol o deimlo’n euog am y gwahanu ac o fod ymhellach ymlaen yn y broses wahanu gan eich bod wedi cael mwy o amser i ddygymod â phethau.

Serch hynny, wrth i’r broses symud ymlaen, efallai y byddwch yn cael eich hun yn galaru yn sydyn ac yn wynebu dicter o’r newydd fel y gallech fod wedi ei wneud yn y dechrau. Unwaith eto, nid yw’r galar yn ystod y broses wahanu yn syml.

Os mai chi sydd wedi cael eich gadael, fe allech deimlo wedi eich bradychu a’ch gwrthod, gan eich gadael yn teimlo’n ansicr ac yn genfigennus o unrhyw berthynas newydd sydd gan riant arall eich plentyn. Hefyd, efallai nad ydych eisiau derbyn diwedd y berthynas ac y byddwch yn ceisio dal gafael arni. Weithiau mae pobl yn dychmygu mai’r unig ffordd iddynt ddal i gadw cysylltiad yw drwy’r gwrthdaro.

Weithiau mae’n ymddangos eich bod yn wynebu tasg aruthrol, ond gydag amser efallai y byddwch yn teimlo’n wahanol.

Mae’n bwysig cofio bod amser yn helpu. Sut bynnag rydych chi a’ch plentyn yn teimlo nawr, mae’n debygol na fyddwch yn teimlo’r un fath ar ôl chwe mis, blwyddyn neu bum mlynedd.

Gall teulu a ffrindiau fod o gymorth i’ch helpu drwy adegau anodd. Gallech hefyd ystyried defnyddio gwasanaeth cyfryngu.

Cliciwch isod i lawrlwytho ein gweithgaredd rhwydwaith cefnogaeth. Enwch yr unigolyn neu’r bobl yn eich bywyd a oedd yn bodloni pob un o’r anghenion isod cyn ichi wahanu ac yna ar ôl ichi wahanu.

Teulu estynedig a ffrindiau

Mae neiniau a theidiau ac aelodau eraill o’r teulu yn chwarae rhan bwysig ym mywyd eich plentyn. Yn eithaf aml, maent yn dioddef yr effeithiau pan fydd rhieni yn ffraeo ac yn teimlo bod yn rhaid iddynt gymryd ochrau. Efallai bod gan aelodau’r teulu deimladau cryf am yr hyn sydd wedi digwydd. Fodd bynnag, mae’n bwysig dal i ganiatáu i’ch plentyn gael perthynas gyda nhw.

Esboniwch wrth eich teulu estynedig eich bod yn deall y gallai eu teyrngarwch fod yn rhanedig, ond ei bod yn bwysig iawn nad ydynt yn lladd ar y naill riant na’r llall oherwydd y gallai hyn achosi i’ch plentyn deimlo ei fod yng nghanol gwrthdaro ehangach fyth.

Mae parhad, sefydlogrwydd ac ymdeimlad o berthyn y gall aelodau eraill o’r teulu ei roi, yn enwedig ar adeg o ansefydlogrwydd ac ansicrwydd, yn dda i blant. Mae treulio amser mewn cartref arall lle mae bywyd yn mynd yn ei flaen fel o’r blaen yn gallu bod yn gysur mawr iddynt.

Ticiwch y blwch siec i olrhain eich cynnydd drwy'r canllaw.

Clipboard Icon
Eich canllaw cymorth
Yn y canllaw hwn
Character icon for support guide menu header
Support guide
Cynnydd Cyffredinol