Am y canllaw

Pan fyddwch fel rhieni yn gwahanu, mae ychydig yn debyg i gychwyn ar siwrnai na feddylioch y byddech byth yn mynd arni. Pan fyddwch mewn perthynas, mae gennych obeithion ar gyfer y dyfodol. Os ydych yn gwahanu, mae’r gobeithion a’r disgwyliadau hynny yn diflannu ac ni wyddoch i ba gyfeiriad yr aiff eich bywyd.

Bydd eich plentyn yn cael ei siapio i raddau helaeth gan sut byddwch chi a rhiant arall eich plentyn yn ymddwyn tuag ato/ati ac yn trafod y golled a sut byddwch yn ymddwyn tuag at eich gilydd. Bydd penderfyniadau pwysig fel ble bydd eich plentyn neu’ch plant yn byw, a pha mor aml maent yn gweld y ddau riant yn effeithio arnynt wrth gwrs, ac felly hefyd lefel y gwrthdaro rhyngoch chi a rhiant arall eich plentyn. Efallai eich bod yn meddwl nad oes gennych ddim dylanwad ar lefel y gwrthdaro. Fodd bynnag, wrth ichi ddarllen y canllaw hwn, rydym yn gobeithio y byddwch yn gweld y gall pob rhiant, ni waeth pwy y credwch sy’n achosi’r gwrthdaro neu beidio, reoli’r gwrthdaro fel ei fod yn llai niweidiol i’w plant. Bwriedir y canllaw hwn i roi syniadau ar sut i ddelio ag anghytundebau ac emosiynau tanbaid sy’n codi rhwng rhieni sydd wedi gwahanu. Yn yr un modd mae’n nodi ffyrdd o helpu plentyn i ddelio â’i deimladau a’i ymateb i’r ffaith bod ei rieni yn gwahanu.

Er y bydd y broses o addasu i fod yn rhiant wedi gwahanu, ar ryw adeg, yn dod i ben, mae eich siwrnai drwy fywyd gyda’ch plentyn yn parhau. Yn y berthynas gyda rhiant arall eich plentyn y mae’r prif newid sydd wedi digwydd i chi fel rhiant. Gall y newid o fod yn bartneriaid agos i fod yn rhieni â pherthynas aeddfed, dawel deimlo’n waith caled iawn, ond gallwch ddefnyddio’r canllaw hwn i’ch rhoi ar ben ffordd.

Yn y canllaw hwn fe gewch wybodaeth am fod yn rhiant sydd wedi gwahanu, sut gall effeithio arnoch chi a’ch plentyn a sut i newid pethau er gwell. Gall deimlo fel tasg enfawr, ond gallai gwneud dim ond un peth yn wahanol arwain at lu o bosibiliadau nad oeddech byth yn dychmygu y byddent yn digwydd.

Wyddech chi?

Yng Nghymru cafodd ymchwil ei wneud gan yr Athro Gordon Harold – seicolegydd plant blaenllaw – i effeithiau gwrthdaro rhwng rhieni ar blant. Canfu’r gwaith hwn mai’r ffordd orau i rieni helpu plant drwy’r broses wahanu neu ysgaru yw eu sicrhau nad nhw sydd ar fai. Hyd yn oed os oes gwrthdaro ynglŷn â’r plant, mae angen dweud yn glir wrthynt nad nhw sydd ar fai ac nad eu cyfrifoldeb nhw ydy dod o hyd i atebion na cheisio stopio’r gwrthdaro. Y rheswm am hyn yw mai’r plant sy’n teimlo’n gyfrifol sy’n dioddef fwyaf, a gall hyn effeithio ar weddill eu bywydau. Fodd bynnag, gall rhieni wneud llawer eu hunain drwy guddio eu gwrthdaro oddi wrth eu plentyn a sicrhau ei fod yn deall nad ef/hi sydd ar fai ac nad ei gyfrifoldeb ef/hi ydy dod o hyd i atebion.

Clipboard Icon
Eich canllaw cymorth
Yn y canllaw hwn
Character icon for support guide menu header
Support guide
Cynnydd Cyffredinol

Beth mae rhieni'n ei ddweud:

"Mae'r canllaw hwn wedi fy helpu i. Rwy'n gobeithio fy hun a gall y rhiant arall gyfathrebu er lles gorau ein plentyn. Mae cyfathrebu yn hanfodol. Mae lles fy mhlentyn yn hollbwysig."
"Roedd y canllaw hwn yn ddefnyddiol iawn ac mae wedi newid fy marn ar 'weithio gyda'n gilydd i blant'."
"Rydw i'n siŵr fy mod yn falch o'r hyn rydw i'n ei wneud. Wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor bwysig yw'r camau bach yn y darlun mwy."
"Rydw i wedi dysgu llawer o awgrymiadau ar gyfer cyfathrebu yn y dyfodol gyda'm cyn-bartner."
"Mae hyn wedi bod yn ddefnyddiol, gan sicrhau bod y plentyn yn cael ei roi yn gyntaf nid y gwrthdaro rhwng yr oedolion."