Mae gwahanu fel arfer yn anodd yn emosiynol i rieni ac i’r plentyn, ond gall y gallu i wrando’n dda iawn ar eich plentyn fod yn allweddol i’w helpu nhw – a chithau. Ni waeth pa mor galed rydych yn ceisio cuddio eich emosiynau, mae’n debygol iawn y bydd eich plentyn yn sylwi ar eich teimladau pryderus, gofidus neu negyddol. Gall y teimladau hyn sefyll yn ffordd gwrando. Dim ond drwy wrando yn dda a siarad yn agored â nhw y gallwch gael gwybod beth sydd wir yn poeni eich plentyn.
Pan all eich teimladau eich hun fod yn gymysgedd o ddicter, tristwch a gofid, nid yw’n hawdd rhoi’r teimladau hynny i’r neilltu a gwir wrando ar eich plentyn. Gallai eu teimladau nhw fod yn wahanol i’ch rhai chi, a gall y ffordd rydych chi’n ymateb gael effaith fawr ar eu lles.
Yr hyn a all eich helpu yw datblygu eich ‘parodrwydd’ emosiynol – i wir wrando ac ymateb. Mae hyn yn golygu cydnabod eich teimladau eich hun ac unrhyw feddyliau negyddol am y rhiant arall, ac yna gallu eu rhoi i’r neilltu er mwyn ichi allu gwir wrando ar eich plentyn. Yna gallwch eu deall yn well ac ymateb mewn ffyrdd a all helpu.
Cam 1
Mae’n gyffredin iawn ichi deimlo amrywiaeth o deimladau negyddol wrth ichi wahanu, er enghraifft, pryder, dicter, tristwch, ofn neu deimlo’n ddi-rym. Weithiau gall rhain eich llethu. Nid yw teimladau’n diflannu wrth ichi esgus nad ydynt yno – weithiau gall hyn arwain at eu mynegi mewn ffyrdd annisgwyl.
Adnabyddwch rai o’r teimladau hynny ynoch chi eich hun, gan dderbyn y gallant beri gofid a hefyd gweld eu bod yn deimladau normal yn y dechrau pan fyddwch yn gwahanu. Efallai y bydd yn help ichi eu hysgrifennu ar bapur.
Mae’r rhain yn deimladau y bydd angen ichi eu ffrwyno pan fyddwch yn gwrando ar eich plentyn. Gall eu labelu eich helpu i deimlo bod gennych reolaeth drostynt.
Cam 2
Mae’r cam hwn yn ymwneud â sgiliau cyfathrebu ac mae adran gyfathrebu’r canllaw hwn yn sôn mwy am hyn.
Bydd peidio â chynhyrfu yn eich helpu i ffrwyno eich teimladau – mae ymarferion syml ond effeithiol i’w cael yn yr adran gyfathrebu. Gall y rhain eich helpu i roi eich teimladau i’r neilltu a dechrau canolbwyntio ar wrando ar eich plentyn. Gall fod yn ddefnyddiol ailadrodd yr ymarferion sawl gwaith.
Mae dysgu gwrando yn sgil bwysig iawn, felly cymerwch ychydig o amser i feddwl am y sgiliau gwrando a’u hymarfer – gallwch ymarfer gwrando gyda’ch plentyn, beth bynnag maent yn ei ddweud wrthych, a gallwch wneud hyn gyda rhai o’u pryderon neu’u llwyddiannau dydd i ddydd cyn siarad am y pethau mwy.
Mae gweld pethau’n wahanol yn ymwneud â gweld safbwynt eich plentyn a chadw eich teimladau eich hun am y rhiant arall ar wahân. Un awgrym defnyddiol iawn wrth wrando ar eich plentyn yw peidio â neidio i mewn yn rhy gyflym gyda’ch damcaniaethau neu’ch atebion eich hun – ceisiwch weld safbwynt eich plentyn.
Cam 3
Mae hwn yn ymwneud â chysuro eich plentyn – mae’n bosibl y bydd yn teimlo’n ddi-rym ynglyˆn â’r hyn sy’n digwydd. Fodd bynnag, dim ond yn y sefyllfaoedd canlynol y mae cysuro yn gweithio:
- os yw’n bosibl – dim ond ynglyˆn â’r hyn y gwyddoch y gallwch ei gyflawni y gallwch gysuro eich plentyn
- os yw’n esiampl wirioneddol o sut bydd pethau a sut byddant yn gweithio – gwnewch e’n real ac yn gadarn; ac
- os yw’n onest a pharhaus. Os oes rhai pethau nad ydych yn siŵ r a fyddwch yn gallu eu cyflawni, y ffordd orau o helpu eich plentyn ydy dweud “Dydyn ni ddim yn gwybod eto, ond byddwn yn gweithio ar hynny”, a rhoi gwybod iddynt pryd gallwch roi o leiaf ryw gymaint o wybodaeth iddynt.
Wrth gysuro eich plentyn, edrychwch ar y pethau na fyddant yn newid, er enghraifft y berthynas â’r ddau riant, yr ysgol, ffrindiau neu’u trefn arferol. Eglurwch y newidiadau posibl a sut byddwch yn eu helpu drwy’r rhain. Ceisiwch gytuno ar gynllun o safbwynt cyswllt gyda’r rhiant arall a gyda neiniau a theidiau neu bobl bwysig eraill yn eu bywydau, a glynwch wrth y cynllun hwnnw. Yn dibynnu ar eu hoedran a’u gallu i ddeall, cynhwyswch eich plentyn a’i helpu i fynegi ei farn am unrhyw newidiadau. Gwnewch yn siwˆr eich bod yn gwneud yr hyn yr ydych wedi’i ddweud a fydd yn digwydd.
Rhai awgrymiadau a all helpu:
- Helpwch eich plentyn i roi enw i deimlad. Weithiau gall rhoi enw ar deimlad llethol wneud iddo ymddangos yn fwy dan reolaeth.
- Edrychwch ar iaith gorfforol ac ymddygiad eich plentyn – gallai hyn eich helpu i ddyfalu’n eithaf da sut maent yn teimlo. Gallwch awgrymu teimlad posibl, heb farnu a helpu eich plentyn i roi enwau i sut maen nhw’n teimlo. Mae hyn yn helpu i wneud siarad am sut maent yn teimlo yn iawn – mae gennych y geiriau a lle diogel i siarad amdanynt.
- Ar ôl ichi labelu teimlad gyda’ch gilydd, cysurwch nhw gan ddweud ei fod yn iawn iddynt deimlo felly dan yr amgylchiadau.
- I’ch helpu i wybod a yw eich plentyn yn ei chael yn anodd mynegi teimladau gofidus, edrychwch am newidiadau yn eu hymddygiad, trafferth yn yr ysgol, ffraeo gyda ffrindiau, neu eu bod yn anarferol o dawel.
- Sylwch a yw eich plentyn yn dirwyn i ben sgyrsiau am wahanu neu am y rhiant arall yn rhy fuan – gallai hyn olygu bod mwy o bethau y mae angen i’ch plentyn siarad amdanynt.
- Os oes angen help arnoch o ran sut mae’ch plentyn yn teimlo, siaradwch â’ch meddyg teulu, cwnselydd ysgol, neu weithiwr iechyd arall.
Gorau oll os gall rhieni gydweithio i wrando ar eu plentyn, ac ymateb gyda chynlluniau tymor hir a realistig. Fodd bynnag, weithiau mae angen i blentyn drafod pethau gyda rhywun arall, ac efallai mai cwnselydd ysgol sydd yn y sefyllfa orau i wneud hyn.