Mae ffrindiau a theulu yn bwysig iawn i’ch plentyn a gallent golli cysylltiad â’r bobl y maent agosaf atynt am nifer o resymau sydd y tu hwnt i’w rheolaeth.
Gall fod nifer o resymau am hyn, gan gynnwys symud cartref, a phobl yn cymryd ochrau.
Cliciwch isod i lawrlwytho gweithgaredd i nodi ffrindiau a theulu sy’n bwysig i’ch plentyn neu’ch plant. Rhowch enw eich plentyn yn y canol ac unrhyw ffrindiau a theulu sy’n bwysig iddyn nhw yn y blychau o amgylch. Os oes gennych fwy nag un plentyn, gallwch lungopïo’r diagram neu ddefnyddio inc lliw gwahanol ar gyfer pob plentyn.