Awgrymiadau am gyswllt

  1. Dylai plant deimlo bod ganddynt gartref gyda’r ddau riant, ni waeth faint o amser maent yn eidreulio gyda nhw
  2. Disgwyliwch wrthwynebiad gan blant wrth iddynt addasu
  3. Peidiwch â defnyddio plant fel negeseuwyr rhyngoch
  4. Ceisiwch beidio â beirniadu, gweld bai, na chymharu’r ddau gartref.

Pan fo hynny’n bosibl ac yn ddiogel, mae angen i blant dreulio amser gyda’r ddau riant. Os bydd eich plentyn yn dweud nad yw am eich gweld, peidiwch â diystyru eu teimladau na’u gwrthod hwythau o’r herwydd. Gwrandewch ar yr hyn y maent yn ei ddweud, ceisiwch ganfod a oes rheswm, a pheidiwch â beio eich plentyn am eich gwrthod.

Weithiau mae plant yn credu bod un rhiant yn dda i gyd ac un rhiant yn ddrwg i gyd. Os bydd hyn yn digwydd, atgoffwch nhw o’r amseroedd da a gawsoch gyda’ch gilydd cyn y gwahanu. Mae plant yn meddwl amdanynt eu hunain fel hanner Mam, hanner Dad, ac os nad ydynt yn cael caru’r ddau riant, gallant, yn y pen draw, wrthod rhan ohonynt eu hunain. Felly ceisiwch beidio â beirniadu na beio eich gilydd o flaen eich plentyn ond atgoffwch nhw fod yna “dda” a “drwg” ym mhob un ohonom.

Mae plant yn wydn a gallant fyw gyda rheolau teuluol gwahanol os gwyddant beth i’w ddisgwyl. Os bydd eich plentyn yn dweud pethau fel “Mae Mam yn gwneud hyn yn wahanol” neu “Dyw Dad ddim yn gwneud pethau fel ‘na”, atgoffwch nhw mai mater i’r rhiant ydy gosod y ffiniau ac, er eich bod yn gwneud pethau’n wahanol, fod y ddau ohonoch yn eu caru a’i bod yn iawn cael gwahanol reolau mewn gwahanol gartrefi.

Dylech osgoi holi eich plentyn beth sy’n digwydd yn y cartref arall – gall deimlo fel petai’n cael ei groesholi. Pryd bynnag y bo modd, cyfathrebwch yn uniongyrchol â rhiant arall eich plentyn.

Ceisiwch beidio â chystadlu gyda’r rhiant arall ynglŷn â phwy sy’n rhoi’r anrheg penblwydd mwyaf, neu roi anrhegion ag amodau. Os rhoddwch anrhegion mawr, meddyliwch ym mha aelwyd y bydd yn aros, ac os yw’n aros yn eich cartref chi, mae’n well rhoi gwybod i’r plentyn ymlaen llaw.

Bydd rhoi gwybodaeth i blant am yr hyn sy’n digwydd a’r hyn i’w ddisgwyl yn gwneud iddynt deimlo’n fwy diogel. Er enghraifft, gallech roi dyddiadau allweddol ar galendr gyda’ch gilydd. Fodd bynnag, nid yw popeth mewn bywyd yn rhagweladwy ac mae’n bosibl y bydd angen i newidiadau gael eu gwneud. Meddyliwch bob amser am yr hyn sydd er lles gorau eich plentyn a rhoi gwybod iddynt am unrhyw newidiadau.

Cynghorion pellach am gyswllt

  1. Datblygwch berthynas o gyd-barch gyda’r rhiant arall gyda’r ffocws ar les gorau eich plentyn
  2. Lle bynnag y bo modd byddwch yn hyblyg ac yn barod i gyfaddawdu
  3. Peidiwch â thrafod pethau a all arwain at ffrae o flaen eich plentyn
  4. Os ydych yn pryderu am wrthdaro pan gaiff y plentyn ei drosglwyddo o un rhiant i’r llall, ceisiwchfeddwl am fesurau diogelwch y gallech eu defnyddio
  5. Cofiwch fod y rhiant y mae eich plentyn yn byw gydag ef/hi yn debygol o fod yn teimlo’nwahanol i’r rhiant arall.

Canolbwyntiwch eich sgyrsiau ar yr hyn sydd orau ar gyfer eich plentyn, cyfathrebwch mewn modd sy’n dangos parch at eich gilydd am anghenion eich plentyn – pethau fel apwyntiadau meddygol, nosweithiau rhieni, diwrnodau chwaraeon a phartïon pen-blwydd.

Os yw eich plentyn yn dweud pethau am yr hyn a ddywedodd neu a wnaeth rhiant arall eich plentyn a bod hynny’n ennyn teimladau cryf ynoch – peidiwch â gorymateb na dial, oherwydd mae hyn yn rhoi eich plentyn yn y canol.

Fodd bynnag, os oes gennych bryderon cryf am y gwrthdaro a allai godi pan fyddwch yn trosglwyddo eich plentyn, mae rhai pethau y gallwch eu gwneud fel cael oedolyn arall yn bresennol, trosglwyddo mewn lle cyhoeddus ac yng ngolau dydd, cael ffrind neu aelod o’ch teulu i drosglwyddo drosoch, neu ddefnyddio canolfan gyswllt.

Er bod pawb yn wahanol, os mai gyda chi y mae’r plentyn yn byw, efallai y byddwch yn teimlo mai chi yw’r un sydd â’r holl gyfrifoldeb ac nad oes gennych ddim amser i chi eich hun, ond o safbwynt y rhiant arall, efallai y byddwch yn hiraethu am y teimlad o fod yn deulu ac yn teimlo ar goll, a ddim yn gwybod sut i lenwi eich amser.

Hyd yn oed os ydych mewn fflat un ystafell wely, mae’n bwysig dod o hyd i le i eiddo eich plentyn, hyd yn oed os yw ddim ond yn gornel mewn ystafell. Bydd hyn yn eu helpu i deimlo eu bod yn dal i fod yn rhan bwysig o’ch bywyd ac yn eu helpu i deimlo’n fwy diogel. Peidiwch â thrin eich plentyn fel gwestai yn eich cartref – ceisiwch greu gweithgareddau a defodau teuluol newydd sy’n eu helpu i deimlo’n fwy diogel.

Ticiwch y blwch siec i olrhain eich cynnydd drwy'r canllaw.

Clipboard Icon
Eich canllaw cymorth
Yn y canllaw hwn
Character icon for support guide menu header
Support guide
Cynnydd Cyffredinol