Cefnogi Plant

Mae gwaith ymchwil yn dangos bod y ffordd mae rhieni yn siarad â’u plentyn am y sefyllfa, a’r ffordd maent yn eu cynnwys mewn penderfyniadau yn ystod y broses wahanu ac wedi hynny, yn gallu effeithio i ba raddau maent yn addasu.

Mae’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn dweud eu bod yn dal eisiau gweld y ddau riant ar ôl iddynt wahanu.

Mae plant sy’n cadw mewn cysylltiad â’r ddau riant ar ôl ysgariad neu wahanu yn addasu’n haws na’r plant hynny sy’n colli cysylltiad â’r rhiant nad ydynt yn byw gydag ef/hi.

Dyma rai o’r pethau pwysicaf y mae eu hangen ar blant pan fydd eu rhieni yn mynd trwy wahaniad:

  • Cael gwybod beth sy’n digwydd a sut bydd ei fywyd ef neu hi yn newid
  • Gwybod nad ef neu hi sydd ar fai
  • Gwybod ei bod yn iawn siarad a gofyn cwestiynau
  • Gwybod ei bod yn iawn cael rheolau teuluol gwahanol mewn tai gwahanol
  • Gwybod bod ei rieni ef/hi yn deall sut mae’n teimlo ac yn dal yn ei g/charu
  • Bod rhywun yn gwrando arnoch
  • Gwybod ei bod yn iawn teimlo’n ddig a thrist
  • Teimlo’n dda ynglŷn â charu’r dau riant.

Cliciwch isod i lawrlwytho ein holiadur magu plant. Nod yr holiadur hwn ydy eich helpu i ganolbwyntio ar y cryfderau a’r nodweddion positif sydd gennych chi i’w cynnig wrth fagu eich plant.

Clipboard Icon
Eich canllaw cymorth
Yn y canllaw hwn
Character icon for support guide menu header
Support guide
Cynnydd Cyffredinol