- Er nad ydych yn bartneriaid bellach, mae’r ddau ohonoch yn dal yn rhieni
- Mae plant yn gallu ymdopi’n dda â phroses wahanu neu ysgaru eu rhieni os nad oes llawer o wrthdaro ac os gallant weld y ddau riant a’u teuluoedd estynedig
- Mae eich perthynas â’ch plant yn parhau, er bod eich perthynas fel partneriaid yn dod i ben.
ddechrau, efallai y bydd yn ymddangos yn amhosibl rhoi’r teimladau cryf sydd gennych ynghylch eich cyn-bartner i’r neilltu er mwyn cydweithredu i fagu eich plentyn. Y peth pwysig i’w gofio yw nad oes rhaid ichi fod yn ffrindiau – dim ond gallu datblygu perthynas lle rydych yn trin eich gilydd â pharch fel y gallwch drafod eich plentyn yn synhwyrol.
Gallai parodrwydd i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol wneud y gwahaniaeth i gyd o ran profiad eich plentyn o’r broses wahanu neu ysgaru.