Ffordd droellog

Isod ceir datganiadau sy’n adlewyrchu bod ar y ffordd droellog. Ticiwch bob datganiad sy’n berthnasol i chi ac yna gwasgwch y botwm Cyflwyno.

Tick each statement that applies to you
Gwrthdaro tanbaid
Ffraeo o flaen y plant
Mynegi emosiynau tanbaid
Ymateb yn gryf i ddigwyddiadau
Meddwl am bethau o’ch safbwynt eich hun
Ddim yn clywed beth mae eich plentyn yn ei ddweud
Yn ansicr sut i ddweud wrth eich plentyn beth sy’n digwydd
Rhoi eich plentyn mewn sefyllfa lle mae’n gorfod dewis ochrau
Yn dawel fach, eisiau i riant arall eich plentyn ddioddef
Rhoi eich holl egni emosiynol i’r gwrthdaro
Meddwl am beth ddylai rhiant arall eich plentyn ei wneud neu beidio â’i wneud
Canolbwyntio ar bethau nad oes gennych reolaeth drostynt
Yn methu â dod i gytundeb
Cyfanswm nifer y ticiau
Cyflwyno
Hyd yn oed os ydych chi wedi ticio dim ond un o'r datganiadau hyn, fe welwch y canllaw hwn yn werthfawr. Wrth ichi fynd drwy’r canllaw fe welwch syniadau amrywiol a all wneud gwahaniaeth i fywyd eich plentyn, a'ch helpu i symud yn agosach at fod ar y ffordd fwy syth. Rhestrir y pwysicaf o'r syniadau hyn yn ‘Rheolau’r Ffordd Fawr’ isod:
  1. 1. Ceisiwch beidio â ffraeo o flaen eich plentyn na gofyn iddo/iddi ddewis ochrau.
  2. 2. Derbyniwch y gallai teimladau eich plentyn fod yn wahanol i’ch rhai chi.
  3. 3. Meddyliwch am yr hyn y gallwch chi ei wneud, nid beth y dylai rhiant arall eich plentyn ei wneud neu beidio â’i wneud.
  4. 4. Canolbwyntiwch ar yr hyn sydd wedi gweithio, nid ar yr hyn sydd heb weithio.
  5. 5. Cofiwch, gall camau bach arwain at newidiadau mawr.
  6. 6. Edrychwch ar eich ôl eich hun a byddwch y rhiant gorau posibl.

Ticiwch y blwch siec i olrhain eich cynnydd drwy'r canllaw.

Clipboard Icon
Eich canllaw cymorth
Yn y canllaw hwn
Character icon for support guide menu header
Support guide
Cynnydd Cyffredinol