Ar y ffordd drwy eich siwrnai yn gwahanu, weithiau gall deimlo fod pethau’n digwydd, a chithau heb ddim dewis ynglŷn â pha ffordd i’w chymryd.
Fodd bynnag, er na fydd yn hawdd, fe allwch wneud rhai penderfyniadau a gaiff effaith bositif ar sut mae pethau’n effeithio ar eich plentyn.
Edrychwch ar y ddwy ffordd a meddwl pa un rydych chi arni – a ydych chi ar y ffordd droellog sy’n anodd ei dilyn, gyda throadau sydyn ynteu ar ffordd fwy syth, haws gyda throadau mwy llyfn? Ynteu ydych chi’n symud rhwng y ddwy?