Mae’r ffordd mae plentyn yn addasu i’r sefyllfa yn dibynnu ar y canlynol:
- Lefel a dwyster y gwrthdaro
- Y diffyg cysylltiad â rhiant, brawd, chwaer, aelod agos arall o’r teulu neu ffrindiau
- Lefel y gefnogaeth gan ei rieni
- Gallu ei rieni i addasu
- Newid yng nghyllid y cartref
- Faint o newidiadau sydd a pha mor gyflym maen nhw’n digwydd – partneriaid newydd, ble mae’n byw, newid ysgol, mynediad at ei ffrindiau
- Ei bersonoliaeth, ei oed, ei ryw a’i gam datblygu.