Edrych Ymlaen

Gwneud dewisiadau

Nawr eich bod wedi dod i ddiwedd y canllaw hwn, mae’n amser meddwl eto am y dyfodol, a’r dewisiadau sydd gennych. Gallwch barhau fel o’r blaen, neu benderfynu gwneud rhai newidiadau yn eich bywyd. Wrth ichi feddwl am y dyfodol a’r cyfleoedd sydd o’ch blaenau, cofiwch sut byddech chi eisiau i’ch plentyn weld y cam hwn yn eu bywydau pan fyddant yn oedolion. Beth am ddigwyddiadau yn y dyfodol, ee perfformiadau ysgol neu briodasau hyd yn oed? A fyddant am i’w rhieni fod yn ymladd o hyd?

Rydym wedi gweld nad yr ysgariad neu’r gwahanu sy’n achosi problemau i blant wrth iddynt dyfu, ond y gwrthdaro sy’n deillio ohono. Os oes gwrthdaro rhyngoch chi a rhiant arall eich plentyn, mae gwahanol opsiynau ar gael i chi.

Cadw pethau fel y maen nhw?

Mae yna ddywediad…“Os ydych yn dal i wneud yr un hen bethau, yr un hen bethau fyddwch chi wastad yn eu cael…”

Os oes llawer o wrthdaro rhyngoch chi a rhiant arall eich plentyn, gallech barhau i ddadlau, a’ch plentyn yn sownd yn y canol. Gallech hefyd barhau i feddwl eich bod chi’n gwneud yr hyn sydd orau i’ch plentyn ac mai rhiant arall eich plentyn sydd ar fai yn llwyr.

Efallai eich bod yn gyfarwydd â mynd i’r llys a chael barnwr yn gwneud penderfyniadau am eich plentyn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn mynd i’r afael ag unrhyw anawsterau emosiynol a all arwain at broblemau pellach. Gall fod yn demtasiwn bod eisiau cael cyfreithiwr sydd ar eich ochr chi, a gall y syniad o ennill pwynt cyfreithiol ymddangos yn ddeniadol, yn enwedig os ydych yn teimlo’n gryf mai chi sy’n iawn. Os oes angen ichi gael eich profi’n iawn, a’ch bod yn meddwl y bydd mynd i’r llys yn sicrhau hyn, ceisiwch edrych ar y sefyllfa o safbwynt eich plentyn a holi eich hun sut y bydd hyn yn eu helpu nhw yn y tymor hir.

Gwneud rhai newidiadau?

Gallwch benderfynu negodi ar eich pen eich hun, ymgynghori â chyfreithiwr am gyngor cyfreithiol neu, os yw’n rhy anodd ichi siarad ar eich pen eich hun, gallwch ddefnyddio gwasanaeth cyfryngu i’ch helpu i wneud yr hyn rydych chi am ei gyflawni.

Gall canolbwyntio ar y newidiadau y gallwch chi eu gwneud, yn hytrach na gobeithio am newidiadau yn rhiant arall eich plentyn wneud gwahaniaeth aruthrol i brofiad eich plentyn o’r broses wahanu. Gallwch ddefnyddio’r cynghorion yn y canllaw hwn; cofiwch fod newidiadau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.

Cliciwch isod i lawrlwytho taflen waith i ysgrifennu eich syniadau. Nid yw osgoi gwrthdaro yn hawdd o reidrwydd, a bydd angen ichi ymbellhau o unrhyw emosiynau cryf a chydweithredu mewn ffordd ymarferol. Hyd yn oed os na fydd rhiant arall eich plentyn yn ceisio newid, fe fyddwch chi’n gwybod eich bod wedi ceisio gwneud y peth iawn. Efallai na fyddwch yn llwyddo bob amser; fodd bynnag, drwy wneud ychydig yn well nawr, bydd yna fudd i chi a’ch plentyn yn y tymor hir.

Ticiwch y blwch siec i olrhain eich cynnydd drwy'r canllaw.

Clipboard Icon
Eich canllaw cymorth
Yn y canllaw hwn
Character icon for support guide menu header
Support guide
Cynnydd Cyffredinol