Siarad gyda’ch plentyn

Weithiau, y plentyn yw’r olaf i wybod eich bod yn gwahanu. Gall aros tan y funud olaf ymddangos fel y peth iawn i’w wneud, ond os oes un rhiant yn gadael yn sydyn gall hyn fod yn sioc enfawr ac nid yw’n rhoi cyfle iddynt baratoi ar gyfer y newidiadau a fydd yn digwydd. Gall fod yn demtasiwn peidio â dweud wrthynt yn y dechrau gan ei bod yn ddigon anodd ichi ddelio â’ch teimladau a’ch emosiynau eich hun, heb sôn am eu rhai nhw.

Pan fyddwch yn dweud wrth eich plentyn eich bod yn gwahanu, ceisiwch ateb cwestiynau mor onest a syml ag y gallwch a gwneud yn siŵ r eich bod yn rhoi digon o amser i hyn, fel nad oes neb yn cael ei ruthro.

Dywedwch wrth eich plentyn nad nhw oedd ar fai am y penderfyniad i wahanu a bod y ddau ohonoch yn dal i’w garu ef/hi.

Os yw’n bosibl, trefnwch i’r rhiant arall fod gyda chi wrth ichi ddweud wrthynt bod eu teimladau nhw’n bwysig a’i bod yn iawn iddynt deimlo’n drist. Dywedwch y byddwch i gyd yn gweithio gyda’ch gilydd i deimlo’n well, ond y gallai hyn gymryd amser. Anogwch nhw i beidio â chuddio eu teimladau, hyd yn oed os yw’n anodd ichi glywed y teimladau hynny. Mae angen iddynt wybod y bydd y ddau ohonoch yn dal i’w caru nhw ac yn dal i fod yn rhan o’u bywydau, a hefyd eich bod chithau’n teimlo’n drist bod y teulu’n chwalu a’u bod nhw hefyd yn debygol o deimlo’n drist. Hefyd, cofiwch ei bod yn bosibl na fyddant eisiau siarad â chi am eu teimladau ar hyn o bryd, ond cofiwch ddweud y byddwch yno pan fyddant eisiau siarad.

Siarad gyda’ch plentyn:

  1. Dywedwch wrth eich plentyn beth sy’n digwydd ac nad ef/hi sydd ar fai
  2. Addaswch y drafodaeth yn ôl oedran a dealltwriaeth eich plentyn
  3. Dywedwch wrtho/wrthi y caiff siarad a radegau eraill hefyd
  4. Gwrandewch arno ef neu hi a siarad am unrhyw deimladau
  5. Peidiwch â gofyn na disgwyl i’ch plentyn ddewis ochrau
  6. Ceisiwch beidio â ffraeo, gwneud sylwadau gwawdlyd na cholli eich tymer o flaen eich plentyn.

Dyma rai cwestiynau y bydd eich plentyn eisiau atebion iddynt o bosibl:

  • “Fyddaf i’n gallu gweld Taid a Nain?”
  • “Lle bydd Mam a Dad yn byw?”
  • “Gaf fi ddal fynd i’r sgowtiaid/clwb ieuenctid/tŷ ffrindiau?”
  • “Gyda phwy y byddaf i’n byw?”
  • “A oes rhaid imi newid ysgol?”
  • “Lle bydd fy anifail anwes yn byw?”
  • “Beth am y gwyliau’r oeddem i fod i fynd arno?”

Cofiwch:

  • Bydd y rhan fwyaf o blant yn ymdopi’n iawn a gall newidiadau bach yn eich ymddygiad chi wneud gwahaniaeth mawr.
  • Mae eich perthynas fel cwpwl drosodd ond ‘dyw eich perthynas fel rhieni ddim. Efallai eich bod wedi gwahanu beth amser yn ôl, ond mae siarad â’ch plentyn yn dal yn bwysig ac efallai bod rhai o’r cynghorion hyn yn rhywbeth ichi eu hystyried nawr.

Ticiwch y blwch siec i olrhain eich cynnydd drwy'r canllaw.

Clipboard Icon
Eich canllaw cymorth
Yn y canllaw hwn
Character icon for support guide menu header
Support guide
Cynnydd Cyffredinol