Ochr emosiynol gwahanu

Colli perthynas

Mae galar yn rhan bwysig o’r broses wahanu, a gall gwybod am wahanol gamau colli rhywun eich helpu drwy’r broses. Pan fydd partner yn marw, mae yna ddefod i’w dilyn – angladd ac ati – a chydnabyddir bod galaru yn naturiol. Yn achos gwahanu, efallai nad yw’r golled sy’n cael ei deimlo am bartner yn cael ei chydnabod neu ei derbyn, ac nid oes defod benodol i’w dilyn (er bod rhai yn ystyried proses gyfreithiol yn y ffordd hon).

Mae’n bosibl bod y ddau ohonoch ar gamau gwahanol iawn yn eich colled. Mae’r un sy’n penderfynu gadael yn aml eisoes wedi profi llawer o’r teimladau sy’n gysylltiedig â galar a cholled cyn gadael y berthynas, ond nid yw’r llall wedi profi hynny eto.

Daw llawer o golledion yn sgil diwedd perthynas – colli bod yn rhan o deulu, colli partner, colli cynlluniau ar gyfer y dyfodol ac amcanion fel cwpwl, colli rôl gwˆ r, gwraig neu gariad, a cholli statws cwpwl. Mae llawer yn gorfod symud o’r cartref lle maent wedi bod yn byw yn ystod y berthynas, ac felly yn colli hwnnw hefyd. Gall y ddau riant hefyd deimlo colli eu perthynas gyda’u plentyn pan fydd gyda’r rhiant arall. Nid yr oedolion yn unig sy’n teimlo’r golled hon, mae’r plentyn hefyd yn ei theimlo.

Emosiynau

Mae ysgaru neu wahanu yn fater personol a bydd yn brofiad gwahanol i bawb. Gallech deimlo rhyddhad bod eich perthynas wedi dod i ben neu deimlo’n fethiant am eich bod yn ddi-rym i atal dod â’r berthynas i ben. Efallai bod y ddau ohonoch wedi penderfynu mai ysgariad yw’r ffordd ymlaen, neu efallai bod un ohonoch yn teimlo’n fwy siŵr am wahanu na’r llall.

Os mai chi sydd wedi penderfynu gadael y berthynas, efallai eich bod wedi bod yn meddwl am y peth ers amser hir, yn ceisio magu’r dewrder i adael, gan wneud ichi deimlo’n euog efallai.

Os mai chi sydd wedi cael eich gadael, efallai ei fod yn sioc ichi ac efallai eich bod yn teimlo wedi’ch gwrthod neu wedi’ch taflu i’r naill ochr.

Os yw’r gwahanu yn sydyn ac yn ddirybudd, gallai eich teimladau fod yn gryfach na phe bai’r berthynas wedi bod yn dod i ben dros gyfnod hir. Rydych hefyd yn debygol o deimlo’n gryfach os mai chi sydd wedi cael eich gadael nag os mai chi sydd wedi penderfynu mynd.

Gall poen gwahanu fod yn ddwfn ac yn ddwys. Gall fod yn boen corfforol wrth ichi deimlo bod eich calon wedi’i thorri’n llythrennol. Gall eich emosiynau hefyd effeithio ar eich gallu i wneud penderfyniadau a gwneud ichi deimlo’n flinedig ac yn ddiegni, er bod hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Ticiwch y blwch siec i olrhain eich cynnydd drwy'r canllaw.

Clipboard Icon
Eich canllaw cymorth
Yn y canllaw hwn
Character icon for support guide menu header
Support guide
Cynnydd Cyffredinol