Efallai y byddwch yn dioddef amrywiaeth o emosiynau anodd yn ystod y broses o wahanu neu ysgariad, ond bydd angen i chi ddatblygu perthynas newydd, barchus gyda’ch cynbartner er mwyn i chi allu magu eich plentyn ar y cyd. Dyma’r meysydd yr eir i’r afael â nhw yn yr adran hon:
- Magu plant gyda’ch gilydd pan nad ydych chi’n bartneriaid mwyach
- Ymdopi â sgyrsiau anodd ac osgoi gwrthdaro gyda’ch cynbartner
- Deall ac ymateb i wrthwynebiad gan eich plentyn
- Rheoli cyswllt â’ch cynbartner; parhau’n barchus a bod yn hyblyg
- Ymdrin â rhiant anodd a chanolbwyntio ar eich plentyn.