Dyma rai ymatebion arferol plant a phobl ifanc. Cofiwch nad dim ond un ymateb arferol sydd:
- Glynu wrth un rhiant neu wrth y ddau
- Bod yn ymosodol a beio un rhiant neu’r ddau
- Ymddwyn yn dda iawn iawn neu gamymddwyn yn y gobaith y bydd hyn yn dod â’r rhieni yn ôl at ei gilydd
- Gwrthod un rhiant neu’r ddau
- Ypsetio a chrio
- Ymddwyn yn wahanol neu gael problemau yn yr ysgol.
Gall y ffordd mae plentyn yn ymateb ddibynnu ar ei oedran.