Y broses wahanu neu ysgaru

Os ydych wedi gwahanu ers cryn amser, neu yn fwy diweddar, mae’r effeithiau yn gallu para am amser hir. Mae yna lawer o wahanol faterion sy’n codi yn sgil gwahanu – dyma rai ohonynt:

  • cyfreithiol
  • ariannol
  • emosiynol
  • magu plant.

Ysgaru neu Wahanu’n Gyfreithiol

  • Mae’r broses gyfreithiol yn dod â phriodas neu bartneriaeth i ben neu’n penderfynu ar y trefniadau ar gyfer eich plentyn
  • Nid yw’n ymwneud â phwy sydd ar fai nac â chosbi’r rhiant arall
  • Mae mynd drwy’r llysoedd yn gallu bod yn gostus o ran amser, arian ac egni emosiynol
  • Os ydych yn ei chael yn anodd siarad â rhiant arall eich plentyn, ond yn dymuno cydweithio, gallwch ddefnyddio gwasanaeth cyfryngu.

Pan ddaw eich perthynas i ben a chithau’n briod, byddwch yn mynd drwy broses gyfreithiol ysgariad yn ogystal â’r prosesau eraill sy’n codi.

P’un a ydych yn briod ai peidio, efallai y bydd angen cyngor arnoch ar rannu eiddo a chyllid, ac ar anghydfodau ynghylch trefniadau plant.

Gallwch ofyn i gyfreithiwr negodi gyda’ch partner ar eich rhan, ond mae’n bosibl y bydd eich cyfreithiwr yn awgrymu eich bod yn defnyddio gwasanaeth cyfryngu i setlo unrhyw faterion rhyngddoch.

Gallwch hefyd wneud cais i’r llys setlo eich anghydfod ar eich rhan. Fodd bynnag, bydd y llys yn eich annog i ddod i gytundeb rhyngddoch ac, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, mae’n bosibl y bydd y llys hefyd yn awgrymu gwasanaeth cyfryngu.

Ysgaru neu Wahanu’n Ariannol

Fel y nodwyd uchod, mae effeithiau gwahanu yn gallu para am amser hir, ac mae hyn yn arbennig o wir yn ariannol. Efallai y byddwch wedi gorfod:

  • Rhannu arian ac eiddo
  • Gwerthu cartref y teulu o bosibl
  • Dod o hyd i gartref newydd
  • Rhoi trefn ar ddyledion
  • Cofiwch, nid yw’n syniad da cynnwys eich plentyn mewn trafodaethau am gymorth ariannol neu incwm.

Mae rhai yn cytuno’n hawdd ar sut i rannu eu harian a’u heiddo, ond i eraill mae’n gallu bod yn anodd, a chreu straen. Efallai y byddwch wedi gallu dod i drefniant ynghylch hyn yn uniongyrchol gyda’ch gilydd. Cofiwch, os oes problemau yn dal i fod gennych yn y maes hwn, gallwch ddefnyddio cyfreithiwr i weithredu ar eich rhan, neu ddefnyddio gwasanaeth cyfryngu i’ch helpu i wneud penderfyniadau.

Efallai eich bod wedi trio siarad â’ch gilydd, ond bod un ohonoch neu’r ddau wedi mynd yn emosiynol neu’n ddig, ac na wnaeth y drafodaeth gyflawni ei phwrpas. Os byddwch yn penderfynu mai cyfryngu yw’r llwybr iawn i chi, cewch eich annog i ddatrys problemau drwy gydweithredu yn hytrach na thrwy wrthdaro, er mwyn dod i gytundeb y mae’r ddau ohonoch yn teimlo sy’n deg.

Gwahanu’n Emosiynol

  • Pan fyddwch yn gwahanu, rydych yn debygol o brofi teimladau o golled, ni waeth pwy wnaeth y penderfyniad i adael
  • Gall eich teimladau newid drwy’r amser
  • Efallai y bydd y cyfan yn eich llethu ac na fyddwch yn gallu meddwl yn synhwyrol
  • Mae angen amser ar rieni a phlant i addasu i’r newidiadau yn eu bywyd.

Nid yw’r penderfyniad i ddod â pherthynas i ben ac yna i godi eich plentyn ar wahân yn benderfyniad hawdd; gall achosi gofid mawr a bod yn ergyd wirioneddol. Efallai y byddwch yn teimlo bod eich emosiynau yn cymryd drosodd. Pan fyddwch mewn cyflwr emosiynol, gall fod yn anodd iawn meddwl yn synhwyrol neu edrych ar y sefyllfa gyda phersbectif, er mwyn gwneud y penderfyniadau gorau i chi a’ch plant. Wrth ddod â pherthynas i ben, bydd yna densiynau a phroblemau cyfathrebu yn aml; fodd bynnag, mae’r canllaw hwn yn rhoi rhywfaint o gyngor ichi ar sut i reoli eich emosiynau.

Os yw eich emosiynau yn eich llethu, gallech ofyn i’ch meddyg teulu am help.

Clipboard Icon
Eich canllaw cymorth
Yn y canllaw hwn
Character icon for support guide menu header
Support guide
Cynnydd Cyffredinol