Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Os ydych wedi dioddef trais neu gamdriniaeth, mae’n bwysig cofio mai diogelwch plentyn a/neu’r rhiant a gafodd ei gam-drin yw’r flaenoriaeth gyntaf.

Mae sawl math o drais a chamdriniaeth, ac mae’n bosibl na fyddwch yn sylweddoli bob amser eich bod yn cael eich cam-drin. Isod mae rhai mathau cyffredin o drais a chamdriniaeth y mae pobl yn eu hwynebu:

  • Trais corfforol neu rywiol, stelcian ac aflonyddu
  • Cam-drin ariannol, ee cymryd arian rhywun, atal rhywun rhag cael neu gadw swydd, neu greu dyledion i’r dioddefwr
  • Bygwth trais a chamdriniaeth emosiynol neu seicolegol.

Gall cam-drin domestig hefyd gynnwys ymddygiadau o bob math nad ydynt, o’u hystyried fel achosion ar eu pen eu hunain, yn ymddangos yn ddifrifol. Os oes patrwm ymddygiad yn datblygu sy’n gwneud ichi deimlo ofn, braw neu ofid mawr, mae’n gamdriniaeth. Gallai hyn gynnwys anfon negeseuon testun, negeseuon e-bost, llythyron, cardiau neu ‘anrhegion’ niferus; aflonyddu ar ffrindiau, teulu a chymdogion; fandaleiddio eiddo.

Er bod profiad pawb yn unigryw, gall camdriniaeth gynnwys:

  • Eich atal rhag treulio amser gyda ffrindiau neu aelodau o’r teulu
  • Bod yn or-genfigennus a meddiannol
  • Digio am ddim rheswm amlwg
  • Ymddangos fel dau berson gwahanol – hynod ddymunol neu gariadus un funud, cas a chreulon y nesaf
  • Beirniadu, cywilyddio neu fychanu yn barhaus
  • Eich gorfodi i gael rhyw neu eich brifo wrth gael rhyw
  • Gwneud ichi fod ofn dweud a gwneud pethau am eich bod yn ofn yr ymateb, neu fyw mewn straen, pryder neu ofn parhaus.

Os ydych chi, aelod o’r teulu neu ffrind yn cael eich cam-drin neu eich bygwth gan bartner, cyn‑bartner neu aelod o’r teulu, neu os yw un o’r rhain yn ymosod arnoch yn gorfforol neu’n rhywiol, rydych yn dioddef cam-drin domestig. Gall fod yn anodd iawn cyfaddef eich bod yn dioddef cam‑drin domestig, ond mae’n gam pwysig er mwyn eich diogelu chi a’ch plant.

Os oes arnoch angen siarad am unrhyw risg neu gamdriniaeth rydych chi neu’ch plentyn yn eu hwynebu, byddem yn eich annog i ffonio llinell gymorth Byw Heb Ofn, neu gysylltu ag un o’r sefydliadau eraill sydd wedi’u rhestru a allai eich helpu. Gallech hefyd siarad â’ch meddyg teulu, gweithiwr cymdeithasol, ymarferydd o Cafcass Cymru os oes gennych un, gweithiwr allweddol neu ymwelydd iechyd.

Os ydych wedi dioddef camdriniaeth, gallai cyswllt cyfyngedig rhwng rhieni, yn ogystal â’r plant, fod er lles y plentyn. Gall cymorth cyfreithiol hefyd chwarae rhan bwysig i gadw pawb yn ddiogel.

Os yw eich plentyn yn siarad am niweidio ei hun neu’n dweud nad ydynt eisiau byw, neu os yw’r ysgol yn dweud wrthych am broblemau sy’n digwydd ers misoedd, neu os teimlwch na allwch ymdopi ag ymddygiad eich plentyn, dylech geisio cymorth.

Gallech:

  • Weld eich meddyg teulu neu’ch ymwelydd iechyd
  • Siarad gydag Athro, Pennaeth Blwyddyn neu Bennaeth eich plentyn
  • Gweld Cwnselydd
  • Siarad gyda’ch Swyddog Cafcass Cymru, os yw’n dal mewn cysylltiad â chi
  • Siarad â’ch Gweithiwr Cymdeithasol os oes gennych un.

Os cewch eich hun mewn sefyllfa dreisiol, ceisiwch help ar unwaith i chi a’ch plentyn.

Clipboard Icon
Eich canllaw cymorth
Yn y canllaw hwn
Character icon for support guide menu header
Support guide
Cynnydd Cyffredinol