Partneriaid newydd

Yn aml mae ar blant angen eu rhieni’n fwy yn nyddiau cynnar y gwahanu a gallant deimlo eich bod yn troi cefn arnynt os byddwch yn mynd allan llawer neu’n dechrau cael cariadon newydd. Gallant yn aml ymddangos yn eithaf beirniadol, a gallant deimlo dan fygythiad yn sgil unrhyw berthnasoedd newydd ag oedolion. Mae’n bwysig bod unrhyw newidiadau yn eu bywydau yn dechrau’n raddol. Fodd bynnag, ni ddylent deimlo eu bod yn gallu dweud wrthych chi beth ydych yn cael neu ddim yn cael ei wneud.

Mae’n debyg ei bod yn well aros i unrhyw berthynas newydd fynd yn fwy difrifol cyn cyflwyno’r person i’ch plentyn. Gall plant deimlo’n agos iawn at bobl newydd yn gyflym a gallai eu cyflwyno i bartneriaid mwy achlysurol eu gwneud yn agored i golled sylweddol arall. Hefyd, pan fydd gennych berthynas newydd, gwnewch yn siŵr ei bod yn ddiogel i’ch plentyn fod yn eu cwmni.

Gall cyflwyno partner newydd i’ch plentyn chwalu’r ffantasi bosibl y bydd eu rhieni yn dod yn ôl at ei gilydd ac, yn ddelfrydol, dylai partner newydd gael ei gyflwyno mewn modd sensitif dros gyfnod o amser, gan ddechrau gyda dim mwy nag awr neu ddwy.

Gall plant ofni y bydd yn well gennych fod gyda’ch partner newydd na gyda nhw ac y gallent eich colli chithau hefyd. Gallent ymateb drwy fod yn fwy emosiynol-ddibynnol a meddiannol nag o’r blaen. Gallwch wrando ar eu teimladau, a’u sicrhau na fyddech byth yn eu gadael gan ddeall bod eu teimladau yn normal mewn sefyllfa o’r fath.

Efallai y bydd eich partner newydd hefyd yn teimlo’n ansicr ac yn genfigennus o’r amser, yr egni a’r arian rydych yn ei dreulio a’i wario gyda’ch plentyn. Er y gallwch geisio tawelu meddwl eich partner newydd, nid yw bob amser yn bosibl gwneud hyn. Efallai y bydd rhaid ichi wedyn ailystyried pa mor bwysig yw eich perthynas newydd ichi.

Efallai y bydd gennych hefyd deimladau cryf am unrhyw bartner newydd sydd gan riant arall eich plentyn ac mae perygl i hyn godi teimladau o ddicter a chenfigen. Mae’n bwysig cofio rhoi eich plentyn yn gyntaf mewn achos o’r fath.

Bydd angen amser arnoch chi a’ch plentyn i addasu i’r newidiadau o’ch blaenau, a hyd yn oed os ydych yn credu y gallech chi fod yn barod i ddod â rhywun newydd i mewn i’ch bywyd nid yw o reidrwydd yn golygu bod eich plentyn yn barod. Bydd angen ichi wneud yn siŵr eu bod yn cael amser i addasu i unrhyw berthynas newydd.

Os ydych chi wedi cwrdd â rhywun ac yn ystyried byw gyda nhw, mae’n bwysig bod rôl y llys-riant yn cael ei thrafod. Bydd dysgu sut i fyw gyda’ch gilydd yn cymryd amser a bydd angen cydbwyso hyn â sicrhau bod eich plentyn yn cynnal ei berthynas gyda’r rhiant arall. Os oes gan eich partner newydd deulu yn barod, gall cytuno ar reolau tŷ cyn symud i mewn gyda’ch gilydd helpu.

Clipboard Icon
Eich canllaw cymorth
Yn y canllaw hwn
Character icon for support guide menu header
Support guide
Cynnydd Cyffredinol