Os ydych yn ei chael yn anodd gweld eich plentyn yn rheolaidd oherwydd perthynas anodd gyda rhiant arall eich plentyn, neu os ydych yn byw y tu allan i’r wlad neu ymhell, yna mae’r awgrymiadau isod yn addas i chi:
Llythyrau
- Peidiwch ag anghofio ysgrifennu’n rheolaidd
- Yn achos plant iau, dewiswch bapur neis, neu raffeg cyfrifiadurol, sticeri, peniau lliw ac ati.
Fideos/DVDs
- Recordiwch fideo neu DVD ohonoch chi’ch hun yn gwneud pethau neu’n rhoi neges arbennig iddynt.
Galwadau ffôn
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwrando yn ogystal â siarad, a cheisiwch beidio â phoeni am gost yr alwad
- Ceisiwch gofio gwybodaeth am eu hysgol, eu ffrindiau; os ydych yn ei chael yn anodd sgwrsio, rhannwch lyfr neu fideo gyda nhw a’i drafod
- Mae gan lawer o blant ffonau symudol – felly gallech gadw mewn cysylltiad drwy neges destun.
Aros dros nos
- Pan fyddwch yn eu gweld, gwnewch eich cartref mor debyg i gartref teulu â phosibl – teganau, dillad sbâr, ac ati. Ceisiwch sicrhau bod ganddynt eu lle eu hunain os yn bosibl.
Pen-blwyddi ac achlysuron arbennig
- Cofiwch y dyddiau arbennig; gallwch eu gwneud yn fwy arbennig drwy fod yn feddylgar am y pethau’r ydych yn eu hanfon. Bydd cerdyn neu lythyr hefyd yn dangos eich bod yn meddwl amdanynt.
Weithiau gall bod yn rhiant achosi llawer o straen. Efallai na fydd plant yn gwerthfawrogi’r holl ymdrech yr ydych wedi’i wneud. Mae’n normal, felly ceisiwch beidio â rhoi’r gorau iddi, gan na all unrhyw faint o lythyrau a galwadau ffôn wneud iawn am fod yno yn bersonol. Gallwch geisio ailagor y llwybrau cyfathrebu neu ystyried symud yn nes. Gallech hefyd ddefnyddio gwasanaeth cyfryngu i’ch helpu i drafod y sefyllfa. Dim ond pan fydd gwir angen y dylech fynd yn ôl i’r llys.