Cyfryngu teuluol

Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl sydd:

  • yn ei chael yn anodd siarad â rhiant arall y plentyn yn uniongyrchol
  • eisiau gwella’r ffordd maent yn cyfathrebu am y plentyn
  • ddim eisiau mynd i’r llys
  • eisiau dod o hyd i ffordd o leihau’r gwrthdaro
  • eisiau dod o hyd i ffordd deg o roi ystyriaeth i safbwyntiau’r plentyn.

Beth sy’n digwydd wrth gyfryngu?

Wrth gyfryngu, dyma’r mathau o bethau y gallwch eu trafod:

  • Cytuno ar gyswllt; faint o amser y bydd y plant yn ei dreulio gyda’r ddau riant yn eu tro a sut y bydd hyn yn gweithio, gan gynnwys y manylion bach sy’n gallu gwneud cymaint o wahaniaeth
  • Ble bydd y plentyn yn byw
  • Cymorth ariannol i’ch plentyn
  • Beth fydd yn digwydd i gartref y teulu
  • Rhannu asedau a dyledion
  • Sut caiff cyllid arall ei rannu, fel pensiynau, cynilion a buddsoddiadau.

Mae gwasanaeth cyfryngu i deuluoedd yn caniatáu i chi ddod i’ch penderfyniadau eich hun am drefniadau plant yn hytrach na bod barnwr yn penderfynu drostoch. Mae cytundebau sy’n deillio o’r broses gyfryngu, felly, yn tueddu i weithio’n well yn ymarferol a phara’n hirach.

Mae’r gwasanaeth yn caniatáu ichi roi trefn ar faterion teuluol dros nifer o gyfarfodydd. Canolbwyntir ar ddarparu amgylchedd diogel a theg, gyda’r nod o symud ymlaen a dod i gytundeb, yn hytrach na phenderfynu pwy sydd ar fai. Nid yw’r cyfryngwr ar ochr unrhyw un a bydd yn eich helpu i negodi cytundeb sy’n rhoi ystyriaeth i anghenion y teulu cyfan. Cyn i ymgeisydd wneud cais i’r llys am orchymyn trefniadau plant mewn achos teuluol, dylai’r ymgeisydd (neu gynrychiolydd cyfreithiol yr ymgeisydd) gysylltu â chyfryngwr teuluol i drefnu i’r ymgeisydd fynd i gyfarfod gwybodaeth am gyfryngu teuluol, a elwir yn Gyfarfod Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu (MIAM).

Gall cyfryngu hyrwyddo cyfathrebu o ansawdd gwell rhyngoch chi a rhiant arall eich plentyn. Mae hefyd yn helpu i sicrhau sail gadarn i barhau i ofalu am y plant. Gall cyfryngu ganolbwyntio ar y plant, eiddo a chyllid, neu’r ddau.

Os ydych yn ystyried defnyddio gwasanaeth cyfryngu:

Os ydych yn gymwys, gallwch gael cymorth cyfreithiol ar gyfer y Cyfarfod Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu ac ar gyfer unrhyw sesiynau cyfryngu teuluol y penderfynwch gymryd rhan ynddynt. Os yw o leiaf un rhiant yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol ar gyfer gwasanaeth cyfryngu, bydd yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol yn talu cost y Cyfarfod Asesu a Gwybodaeth a’r sesiwn gyfryngu gyntaf ar ôl y cyfarfod i’r ddau riant. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/looking-after-children-divorce. Gall cyfryngu teuluol fod yn broses gyflymach, ratach a haws na straen mynd i’r llys.

Yn yr asesiad

Bydd y cyfryngwr yn esbonio’r hyn y mae cyfryngu yn ei olygu ac yn eich helpu i benderfynu ai dyma’r llwybr iawn i chi. Yn y cyfarfod asesu, gall y cyfryngwr hefyd roi gwybod ichi a ydych yn gymwys i gael cyllid cyhoeddus.

Gallwch ddewis cael cyfarfod asesu ar yr un pryd â rhiant arall eich plentyn neu gael un ar wahân. Os bydd y ddau ohonoch am gael un gyda’ch gilydd, byddwch yn dal i gael eich gweld ar wahân am ran o’r cyfarfod.

Dechrau’r broses gyfryngu:

Os bydd y ddau ohonoch yn penderfynu dilyn y llwybr cyfryngu, cynigir cyfarfod ar y cyd ichi, sef y cyntaf o ddau neu dri chyfarfod i’r ddau ohonoch wneud cynlluniau ar gyfer eich plentyn. Os bydd y ddau ohonoch yn penderfynu dilyn y llwybr cyfryngu, bydd y broses yn dechrau yn y cyfarfod nesaf.

Yn ystod y broses gyfryngu:

Os mai trafod materion plant yr ydych, bydd y cyfryngwr yn eich helpu i wneud cynlluniau ynghylch trefniadau cyswllt. Gallwch benderfynu beth rydych am ei drafod ac i ba raddau. Bydd y cyfryngwr hefyd yn eich helpu i gyfathrebu’n well gyda rhiant arall eich plentyn am eich plentyn.

Pan ddewch i gytundeb:

Unwaith bydd y ddau ohonoch wedi dod i gytundeb, bydd y cyfryngwr yn ysgrifennu’r manylion ar eich cyfer. Efallai y bydd modd ichi droi eich cytundeb yn orchymyn trefniadau plant sy’n rhwymo’n gyfreithiol.

Clipboard Icon
Eich canllaw cymorth
Yn y canllaw hwn
Character icon for support guide menu header
Support guide
Cynnydd Cyffredinol