Cwnsela

Efallai yr hoffech ystyried gwasanaeth cwnsela os ydych yn teimlo eich bod “yn methu â symud” o un o’r camau colled er mwyn:

  • eich helpu i ddatrys emosiynau sy’n gwrthdaro â’i gilydd
  • eich helpu drwy gyfnod o newid
  • eich helpu i fynegi eich teimladau
  • helpu eich plant i fynegi eu teimladau a theimlo cefnogaeth.

Cwnsela i unigolion

Mae cwnsela yn eich helpu i wneud problemau yn glir yn eich meddwl eich hun, a dod o hyd i ffyrdd gwell o weithio drwyddynt. Mae’r cwnselydd wedi’i hyfforddi i wrando arnoch a’ch helpu i ddeall a rhoi trefn ar bethau drosoch eich hun. Ni fydd yn dweud wrthych beth i’w wneud, ond bydd yn gweithio gyda chi i’ch cefnogi. Mae sesiynau cwnsela fel arfer yn para am 50 munud, a bydd nifer y sesiynau a gewch yn dibynnu ar y problemau sydd gennych. Gall eich cwnselydd drafod hyn gyda chi.

Cwnsela i’r teulu

Weithiau mae pobl yn cael budd o gwnsela neu therapi i’r teulu. Bwriedir y math hwn o gwnsela ar gyfer teuluoedd, rhieni a phlant, ond gall fod yn berthnasol i unrhyw berthynas, mewn teuluoedd neu beidio, a fyddai’n elwa o gael cefnogaeth. Gall brodyr a chwiorydd, teuluoedd estynedig gan gynnwys teidiau a neiniau, hefyd fynychu. Weithiau mae pobl yn ei chael yn ddefnyddiol gwahodd ffrind teuluol agos iawn.

Gall Cwnsela neu Therapi i’r teulu helpu aelodau’r teulu i ddod o hyd i ffyrdd o gefnogi a helpu ei gilydd, datblygu eu sgiliau cyfathrebu ymhellach, a’u gallu i ddelio â gwahaniaethau. Mae’n digwydd mewn amgylchedd diogel a chefnogol lle mae’r ffocws ar ganfod a hybu cryfderau ac adnoddau’r teulu a lle ymdrinnir â phroblemau mewn ffordd gydweithredol.

Efallai y bydd eich meddyg teulu yn gallu eich cyfeirio at wasanaeth cwnsela rhad ac am ddim, ond fel arall mae’n debygol y bydd disgwyl ichi dalu.

Cwnsela i Ieuenctid

Wrth ichi ysgaru neu wahanu efallai y gwelwch nad ydych ar gael i’ch plentyn gymaint ag yr hoffech fod. Gall eich plentyn wedyn ddechrau cadw ei deimladau a’i bryderon iddo ef/hi ei hun, gan feddwl y gallai siarad â chi roi mwy o faich a gofid arnoch. Gallwch ofyn i’r ysgol a oes cwnselydd ieuenctid ar y safle. Gall cwnsela i ieuenctid roi cyfle i blentyn siarad am ei ofnau a’i bryderon heb y pryder ychwanegol o’ch poeni chi.

Cwnsela yn yr ysgol

Mae cwnsela yn un o ystod o wasanaethau sy’n helpu i gefnogi anghenion iechyd, emosiynol a chymdeithasol disgyblion ac mae’n arwain at ddiwylliant ysgol iach. Mae tystiolaeth yn dangos y gall gwasanaeth cwnsela sy’n darparu cymorth o fewn strategaeth gyffredinol yr ysgol hybu lles pobl ifanc yn effeithiol iawn. Os oes arnoch angen help gyda sut mae’ch plentyn yn teimlo, siaradwch â’ch meddyg teulu, eich cynghorydd ysgol, neu gyda gweithiwr iechyd arall.

Clipboard Icon
Eich canllaw cymorth
Yn y canllaw hwn
Character icon for support guide menu header
Support guide
Cynnydd Cyffredinol