Cyflwyniad
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno nad yw gwrthdaro rhwng rhieni yn dda i blant ond weithiau mae gwrthdaro yn fwy tebygol o ddigwydd pan fyddwch yn gwahanu neu’n ysgaru. Nid cwrs magu plant yw Magu’r Plant Gyda’n Gilydd – Cefnogi Plant Wrth Wahanu. Mae’n ganllaw a fwriedir i helpu rhieni sydd wedi gwahanu i ddeall beth mae ar eu plant ei angen fwyaf ganddynt a dysgu egwyddorion sylfaenol sut i ddelio ag unrhyw wrthdaro ac anawsterau rhyngddynt – a sut i roi hyn ar waith.
Cymerwch eich amser i weithio trwy bum rhan allweddol y canllaw hwn, ar eich cyflymder eich hun. Nid oes rhaid i chi weithio trwyddynt yn eu trefn, a gallwch fynd at yr adran sy’n fwyaf perthnasol i chi. Mae pob un ohonynt yn llawn syniadau, technegau defnyddiol ac ymarferion syml i’ch helpu chi a’ch plentyn trwy daith gwahanu.
- Mae’r canllaw hwn ar gyfer aelodau o deuluoedd sy’n gwrthdaro dros drefniadau plant (fel, ble dylai eich plentyn fyw neu pwy ddylai’r plentyn ei weld, pa mor aml ac am ba hyd)
- Rhieni’n gweithio gyda’i gilydd er lles eich plentyn
- Beth yw anghenion eich plentyn – cael eich gwneud yn ymwybodol o anghenion eich plentyn a dysgu syniadau amrywiol a all wneud gwahaniaeth i fywyd eich plentyn
- Siarad â’ch plentyn – dywedwch wrtho/wrthi beth sy’n digwydd, gwrandewch a siaradwch ag ef/hi am unrhyw deimladau.
Gallwch edrych ar y canllaw pa bynnag bryd sydd angen ac mae taflenni gwaith y gallwch eu lawrlwytho a’u llenwi wrth i chi fynd yn eich blaen. Bydd rhai rhannau o’r canllaw yn berthnasol i’ch sefyllfa, a rhai ddim. Hefyd, efallai y cewch hyd i ddolenni defnyddiol i wefannau a all fod yn ddefnyddiol i chi yn eich sefyllfa, ac i barhau i ddysgu.