{"id":434,"date":"2018-03-26T12:10:11","date_gmt":"2018-03-26T11:10:11","guid":{"rendered":"http:\/\/parentingtogether.gov.wales\/about-2\/"},"modified":"2021-04-20T14:12:12","modified_gmt":"2021-04-20T13:12:12","slug":"about","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/amdanom-ni\/","title":{"rendered":"Amdanom ni"},"content":{"rendered":"

Pan fyddwch fel rhieni yn gwahanu, mae ychydig yn debyg i gychwyn ar siwrnai na feddylioch y byddech byth yn mynd arni. Pan fyddwch mewn perthynas, mae gennych obeithion ar gyfer y dyfodol. Os ydych yn gwahanu, mae\u2019r gobeithion a\u2019r disgwyliadau hynny yn diflannu ac ni wyddoch i ba gyfeiriad yr aiff eich bywyd.<\/p>\n

Bydd eich plentyn yn cael ei siapio i raddau helaeth gan sut byddwch chi a rhiant arall eich plentyn yn ymddwyn tuag ato\/ati ac yn trafod y golled a sut byddwch yn ymddwyn tuag at eich gilydd. Bydd penderfyniadau pwysig fel ble bydd eich plentyn neu\u2019ch plant yn byw, a pha mor aml maent yn gweld y ddau riant yn effeithio arnynt wrth gwrs, ac felly hefyd lefel y gwrthdaro rhyngoch chi a rhiant arall eich plentyn. Efallai eich bod yn meddwl nad oes gennych ddim dylanwad ar lefel y gwrthdaro. Fodd bynnag, wrth ichi ddarllen y canllaw hwn, rydym yn gobeithio y byddwch yn gweld y gall pob rhiant, ni waeth pwy y credwch sy\u2019n achosi\u2019r gwrthdaro neu beidio, reoli\u2019r gwrthdaro fel ei fod yn llai niweidiol i\u2019w plant. Bwriedir y canllaw hwn i roi syniadau ar sut i ddelio ag anghytundebau ac emosiynau tanbaid sy\u2019n codi rhwng rhieni sydd wedi gwahanu. Yn yr un modd mae’n nodi ffyrdd o helpu plentyn i ddelio \u00e2\u2019i deimladau a\u2019i ymateb i\u2019r ffaith bod ei rieni yn gwahanu.<\/p>\n

Er y bydd y broses o addasu i fod yn rhiant wedi gwahanu, ar ryw adeg, yn dod i ben, mae eich siwrnai drwy fywyd gyda\u2019ch plentyn yn parhau. Yn y berthynas gyda rhiant arall eich plentyn y mae\u2019r prif newid sydd wedi digwydd i chi fel rhiant. Gall y newid o fod yn bartneriaid agos i fod yn rhieni \u00e2 pherthynas aeddfed, dawel deimlo\u2019n waith caled iawn, ond gallwch ddefnyddio\u2019r canllaw hwn i\u2019ch rhoi ar ben ffordd.<\/p>\n

Yn y canllaw hwn fe gewch wybodaeth am fod yn rhiant sydd wedi gwahanu, sut gall effeithio arnoch chi a\u2019ch plentyn a sut i newid pethau er gwell. Gall deimlo fel tasg enfawr, ond gallai gwneud dim ond un peth yn wahanol arwain at lu o bosibiliadau nad oeddech byth yn dychmygu y byddent yn digwydd.<\/p>\n

Wyddech chi?<\/h2>\n

Yng Nghymru cafodd ymchwil ei wneud gan yr Athro Gordon Harold \u2013 seicolegydd plant blaenllaw \u2013 i effeithiau gwrthdaro rhwng rhieni ar blant. Canfu\u2019r gwaith hwn mai\u2019r ffordd orau i rieni helpu plant drwy\u2019r broses wahanu neu ysgaru yw eu sicrhau nad nhw sydd ar fai. Hyd yn oed os oes gwrthdaro yngl\u0177n \u00e2\u2019r plant, mae angen dweud yn glir wrthynt nad nhw sydd ar fai ac nad eu cyfrifoldeb nhw ydy dod o hyd i atebion na cheisio stopio\u2019r gwrthdaro. Y rheswm am hyn yw mai\u2019r plant sy\u2019n teimlo\u2019n gyfrifol sy\u2019n dioddef fwyaf, a gall hyn effeithio ar weddill eu bywydau. Fodd bynnag, gall rhieni wneud llawer eu hunain drwy guddio eu gwrthdaro oddi wrth eu plentyn a sicrhau ei fod yn deall nad ef\/hi sydd ar fai ac nad ei gyfrifoldeb ef\/hi ydy dod o hyd i atebion.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Pan fyddwch fel rhieni yn gwahanu, mae ychydig yn debyg i gychwyn ar siwrnai na feddylioch y byddech byth yn mynd arni. Pan fyddwch mewn perthynas, mae gennych obeithion ar gyfer y dyfodol. Os ydych yn gwahanu, mae\u2019r gobeithion a\u2019r disgwyliadau hynny yn diflannu ac ni wyddoch i ba gyfeiriad yr aiff eich bywyd. Bydd […]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":19,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"class_list":["post-434","page","type-page","status-publish","hentry"],"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"3.0.0","language":"cy","enabled_languages":["en","cy"],"languages":{"en":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false}}},"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/434","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=434"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/434\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1558,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/434\/revisions\/1558"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=434"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}