{"id":432,"date":"2018-03-26T12:10:04","date_gmt":"2018-03-26T11:10:04","guid":{"rendered":"http:\/\/parentingtogether.gov.wales\/new-partners\/"},"modified":"2018-07-26T10:37:26","modified_gmt":"2018-07-26T09:37:26","slug":"new-partners","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/partneriaid-newydd\/","title":{"rendered":"Partneriaid newydd"},"content":{"rendered":"

Yn aml mae ar blant angen eu rhieni\u2019n fwy yn nyddiau cynnar y gwahanu a gallant deimlo eich bod yn troi cefn arnynt os byddwch yn mynd allan llawer neu\u2019n dechrau cael cariadon newydd. Gallant yn aml ymddangos yn eithaf beirniadol, a gallant deimlo dan fygythiad yn sgil unrhyw berthnasoedd newydd ag oedolion. Mae\u2019n bwysig bod unrhyw newidiadau yn eu bywydau yn dechrau\u2019n raddol. Fodd bynnag, ni ddylent deimlo eu bod yn gallu dweud wrthych chi beth ydych yn cael neu ddim yn cael ei wneud.<\/p>\n

Mae\u2019n debyg ei bod yn well aros i unrhyw berthynas newydd fynd yn fwy difrifol cyn cyflwyno\u2019r person i\u2019ch plentyn. Gall plant deimlo\u2019n agos iawn at bobl newydd yn gyflym a gallai eu cyflwyno i bartneriaid mwy achlysurol eu gwneud yn agored i golled sylweddol arall. Hefyd, pan fydd gennych berthynas newydd, gwnewch yn si\u0175r ei bod yn ddiogel i\u2019ch plentyn fod yn eu cwmni.<\/p>\n

Gall cyflwyno partner newydd i\u2019ch plentyn chwalu\u2019r ffantasi bosibl y bydd eu rhieni yn dod yn \u00f4l at ei gilydd ac, yn ddelfrydol, dylai partner newydd gael ei gyflwyno mewn modd sensitif dros gyfnod o amser, gan ddechrau gyda dim mwy nag awr neu ddwy.<\/p>\n

Gall plant ofni y bydd yn well gennych fod gyda\u2019ch partner newydd na gyda nhw ac y gallent eich colli chithau hefyd. Gallent ymateb drwy fod yn fwy emosiynol-ddibynnol a meddiannol nag o\u2019r blaen. Gallwch wrando ar eu teimladau, a\u2019u sicrhau na fyddech byth yn eu gadael gan ddeall bod eu teimladau yn normal mewn sefyllfa o\u2019r fath.<\/p>\n

Efallai y bydd eich partner newydd hefyd yn teimlo\u2019n ansicr ac yn genfigennus o\u2019r amser, yr egni a\u2019r arian rydych yn ei dreulio a\u2019i wario gyda\u2019ch plentyn. Er y gallwch geisio tawelu meddwl eich partner newydd, nid yw bob amser yn bosibl gwneud hyn. Efallai y bydd rhaid ichi wedyn ailystyried pa mor bwysig yw eich perthynas newydd ichi.<\/p>\n

Efallai y bydd gennych hefyd deimladau cryf am unrhyw bartner newydd sydd gan riant arall eich plentyn ac mae perygl i hyn godi teimladau o ddicter a chenfigen. Mae\u2019n bwysig cofio rhoi eich plentyn yn gyntaf mewn achos o\u2019r fath.<\/p>\n

Bydd angen amser arnoch chi a\u2019ch plentyn i addasu i\u2019r newidiadau o\u2019ch blaenau, a hyd yn oed os ydych yn credu y gallech chi fod yn barod i ddod \u00e2 rhywun newydd i mewn i\u2019ch bywyd nid yw o reidrwydd yn golygu bod eich plentyn yn barod. Bydd angen ichi wneud yn si\u0175r eu bod yn cael amser i addasu i unrhyw berthynas newydd.<\/p>\n

Os ydych chi wedi cwrdd \u00e2 rhywun ac yn ystyried byw gyda nhw, mae\u2019n bwysig bod r\u00f4l y llys-riant yn cael ei thrafod. Bydd dysgu sut i fyw gyda\u2019ch gilydd yn cymryd amser a bydd angen cydbwyso hyn \u00e2 sicrhau bod eich plentyn yn cynnal ei berthynas gyda\u2019r rhiant arall. Os oes gan eich partner newydd deulu yn barod, gall cytuno ar reolau t\u0177 cyn symud i mewn gyda\u2019ch gilydd helpu.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Yn aml mae ar blant angen eu rhieni\u2019n fwy yn nyddiau cynnar y gwahanu a gallant deimlo eich bod yn troi cefn arnynt os byddwch yn mynd allan llawer neu\u2019n dechrau cael cariadon newydd. Gallant yn aml ymddangos yn eithaf beirniadol, a gallant deimlo dan fygythiad yn sgil unrhyw berthnasoedd newydd ag oedolion. Mae\u2019n bwysig […]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":17,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"2.12.2","language":"cy","enabled_languages":["en","cy"],"languages":{"en":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false}}},"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/432"}],"collection":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=432"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/432\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1365,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/432\/revisions\/1365"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=432"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}