{"id":431,"date":"2018-03-26T12:10:00","date_gmt":"2018-03-26T11:10:00","guid":{"rendered":"http:\/\/parentingtogether.gov.wales\/separation-and-divorce-process\/"},"modified":"2018-07-26T10:31:56","modified_gmt":"2018-07-26T09:31:56","slug":"separation-and-divorce-process","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/y-broses-wahanu-neu-ysgaru\/","title":{"rendered":"Y broses wahanu neu ysgaru"},"content":{"rendered":"
Os ydych wedi gwahanu ers cryn amser, neu yn fwy diweddar, mae\u2019r effeithiau yn gallu para am amser hir. Mae yna lawer o wahanol faterion sy\u2019n codi yn sgil gwahanu \u2013 dyma rai ohonynt:<\/p>\n
Pan ddaw eich perthynas i ben a chithau\u2019n briod, byddwch yn mynd drwy broses gyfreithiol ysgariad yn ogystal \u00e2\u2019r prosesau eraill sy\u2019n codi.<\/p>\n
P\u2019un a ydych yn briod ai peidio, efallai y bydd angen cyngor arnoch ar rannu eiddo a chyllid, ac ar anghydfodau ynghylch trefniadau plant.<\/p>\n
Gallwch ofyn i gyfreithiwr negodi gyda\u2019ch partner ar eich rhan, ond mae\u2019n bosibl y bydd eich cyfreithiwr yn awgrymu eich bod yn defnyddio gwasanaeth cyfryngu i setlo unrhyw faterion rhyngddoch.<\/p>\n
Gallwch hefyd wneud cais i\u2019r llys setlo eich anghydfod ar eich rhan. Fodd bynnag, bydd y llys yn eich annog i ddod i gytundeb rhyngddoch ac, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, mae\u2019n bosibl y bydd y llys hefyd yn awgrymu gwasanaeth cyfryngu.<\/p>\n
Fel y nodwyd uchod, mae effeithiau gwahanu yn gallu para am amser hir, ac mae hyn yn arbennig o wir yn ariannol. Efallai y byddwch wedi gorfod:<\/p>\n
Mae rhai yn cytuno\u2019n hawdd ar sut i rannu eu harian a\u2019u heiddo, ond i eraill mae\u2019n gallu bod yn anodd, a chreu straen. Efallai y byddwch wedi gallu dod i drefniant ynghylch hyn yn uniongyrchol gyda\u2019ch gilydd. Cofiwch, os oes problemau yn dal i fod gennych yn y maes hwn, gallwch ddefnyddio cyfreithiwr i weithredu ar eich rhan, neu ddefnyddio gwasanaeth cyfryngu i\u2019ch helpu i wneud penderfyniadau.<\/p>\n
Efallai eich bod wedi trio siarad \u00e2\u2019ch gilydd, ond bod un ohonoch neu\u2019r ddau wedi mynd yn emosiynol neu\u2019n ddig, ac na wnaeth y drafodaeth gyflawni ei phwrpas. Os byddwch yn penderfynu mai cyfryngu yw\u2019r llwybr iawn i chi, cewch eich annog i ddatrys problemau drwy gydweithredu yn hytrach na thrwy wrthdaro, er mwyn dod i gytundeb y mae\u2019r ddau ohonoch yn teimlo sy\u2019n deg.<\/p>\n
Nid yw\u2019r penderfyniad i ddod \u00e2 pherthynas i ben ac yna i godi eich plentyn ar wah\u00e2n yn benderfyniad hawdd; gall achosi gofid mawr a bod yn ergyd wirioneddol. Efallai y byddwch yn teimlo bod eich emosiynau yn cymryd drosodd. Pan fyddwch mewn cyflwr emosiynol, gall fod yn anodd iawn meddwl yn synhwyrol neu edrych ar y sefyllfa gyda phersbectif, er mwyn gwneud y penderfyniadau gorau i chi a\u2019ch plant. Wrth ddod \u00e2 pherthynas i ben, bydd yna densiynau a phroblemau cyfathrebu yn aml; fodd bynnag, mae\u2019r canllaw hwn yn rhoi rhywfaint o gyngor ichi ar sut i reoli eich emosiynau.<\/p>\n
Os yw eich emosiynau yn eich llethu, gallech ofyn i\u2019ch meddyg teulu am help.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"
Os ydych wedi gwahanu ers cryn amser, neu yn fwy diweddar, mae\u2019r effeithiau yn gallu para am amser hir. Mae yna lawer o wahanol faterion sy\u2019n codi yn sgil gwahanu \u2013 dyma rai ohonynt: cyfreithiol ariannol emosiynol magu plant. Ysgaru neu Wahanu\u2019n Gyfreithiol Mae\u2019r broses gyfreithiol yn dod \u00e2 phriodas neu bartneriaeth i ben neu\u2019n […]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":18,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"2.12.2","language":"cy","enabled_languages":["en","cy"],"languages":{"en":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false}}},"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/431"}],"collection":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=431"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/431\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1559,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/431\/revisions\/1559"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=431"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}