{"id":430,"date":"2018-03-26T12:09:58","date_gmt":"2018-03-26T11:09:58","guid":{"rendered":"http:\/\/parentingtogether.gov.wales\/violence-against-women-advice\/"},"modified":"2018-07-26T10:35:27","modified_gmt":"2018-07-26T09:35:27","slug":"violence-against-women-advice","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/trais-yn-erbyn-menywod-camdrin-domestig-a-thrais-rhywiol\/","title":{"rendered":"Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol"},"content":{"rendered":"
Mae sawl math o drais a chamdriniaeth, ac mae\u2019n bosibl na fyddwch yn sylweddoli bob amser eich bod yn cael eich cam-drin. Isod mae rhai mathau cyffredin o drais a chamdriniaeth y mae pobl yn eu hwynebu:<\/p>\n
Gall cam-drin domestig hefyd gynnwys ymddygiadau o bob math nad ydynt, o\u2019u hystyried fel achosion ar eu pen eu hunain, yn ymddangos yn ddifrifol. Os oes patrwm ymddygiad yn datblygu sy\u2019n gwneud ichi deimlo ofn, braw neu ofid mawr, mae\u2019n gamdriniaeth. Gallai hyn gynnwys anfon negeseuon testun, negeseuon e-bost, llythyron, cardiau neu \u2018anrhegion\u2019 niferus; aflonyddu ar ffrindiau, teulu a chymdogion; fandaleiddio eiddo.<\/p>\n
Er bod profiad pawb yn unigryw, gall camdriniaeth gynnwys:<\/p>\n
Os ydych chi, aelod o\u2019r teulu neu ffrind yn cael eich cam-drin neu eich bygwth gan bartner, cyn\u2011bartner neu aelod o\u2019r teulu, neu os yw un o\u2019r rhain yn ymosod arnoch yn gorfforol neu\u2019n rhywiol, rydych yn dioddef cam-drin domestig. Gall fod yn anodd iawn cyfaddef eich bod yn dioddef cam\u2011drin domestig, ond mae\u2019n gam pwysig er mwyn eich diogelu chi a\u2019ch plant.<\/p>\n
Os oes arnoch angen siarad am unrhyw risg neu gamdriniaeth rydych chi neu\u2019ch plentyn yn eu hwynebu, byddem yn eich annog i ffonio llinell gymorth Byw Heb Ofn, neu gysylltu ag un o\u2019r sefydliadau eraill sydd wedi\u2019u rhestru a allai eich helpu. Gallech hefyd siarad \u00e2\u2019ch meddyg teulu, gweithiwr cymdeithasol, ymarferydd o Cafcass Cymru os oes gennych un, gweithiwr allweddol neu ymwelydd iechyd.<\/p>\n
Os ydych wedi dioddef camdriniaeth, gallai cyswllt cyfyngedig rhwng rhieni, yn ogystal \u00e2\u2019r plant, fod er lles y plentyn. Gall cymorth cyfreithiol hefyd chwarae rhan bwysig i gadw pawb yn ddiogel.<\/p>\n
Os yw eich plentyn yn siarad am niweidio ei hun neu\u2019n dweud nad ydynt eisiau byw, neu os yw\u2019r ysgol yn dweud wrthych am broblemau sy\u2019n digwydd ers misoedd, neu os teimlwch na allwch ymdopi ag ymddygiad eich plentyn, dylech geisio cymorth.<\/p>\n
Gallech:<\/p>\n
Os cewch eich hun mewn sefyllfa dreisiol, ceisiwch help ar unwaith i chi a\u2019ch plentyn.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":" Os ydych wedi dioddef trais neu gamdriniaeth, mae\u2019n bwysig cofio mai diogelwch plentyn a\/neu\u2019r rhiant a gafodd ei gam-drin yw\u2019r flaenoriaeth gyntaf. Mae sawl math o drais a chamdriniaeth, ac mae\u2019n bosibl na fyddwch yn sylweddoli bob amser eich bod yn cael eich cam-drin. Isod mae rhai mathau cyffredin o drais a chamdriniaeth y mae […]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":16,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"2.12.2","language":"cy","enabled_languages":["en","cy"],"languages":{"en":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false}}},"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/430"}],"collection":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=430"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/430\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1364,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/430\/revisions\/1364"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=430"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}