{"id":429,"date":"2018-03-26T12:09:53","date_gmt":"2018-03-26T11:09:53","guid":{"rendered":"http:\/\/parentingtogether.gov.wales\/counselling\/"},"modified":"2021-04-26T18:43:32","modified_gmt":"2021-04-26T17:43:32","slug":"counselling","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/cwnsela\/","title":{"rendered":"Cwnsela"},"content":{"rendered":"
Efallai yr hoffech ystyried gwasanaeth cwnsela os ydych yn teimlo eich bod \u201cyn methu \u00e2 symud\u201d o un o\u2019r camau colled er mwyn:<\/p>\n
Mae cwnsela yn eich helpu i wneud problemau yn glir yn eich meddwl eich hun, a dod o hyd i ffyrdd gwell o weithio drwyddynt. Mae\u2019r cwnselydd wedi\u2019i hyfforddi i wrando arnoch a\u2019ch helpu i ddeall a rhoi trefn ar bethau drosoch eich hun. Ni fydd yn dweud wrthych beth i\u2019w wneud, ond bydd yn gweithio gyda chi i\u2019ch cefnogi. Mae sesiynau cwnsela fel arfer yn para am 50 munud, a bydd nifer y sesiynau a gewch yn dibynnu ar y problemau sydd gennych. Gall eich cwnselydd drafod hyn gyda chi.<\/p>\n
Weithiau mae pobl yn cael budd o gwnsela neu therapi i\u2019r teulu. Bwriedir y math hwn o gwnsela ar gyfer teuluoedd, rhieni a phlant, ond gall fod yn berthnasol i unrhyw berthynas, mewn teuluoedd neu beidio, a fyddai\u2019n elwa o gael cefnogaeth. Gall brodyr a chwiorydd, teuluoedd estynedig gan gynnwys teidiau a neiniau, hefyd fynychu. Weithiau mae pobl yn ei chael yn ddefnyddiol gwahodd ffrind teuluol agos iawn.<\/p>\n
Gall Cwnsela neu Therapi i\u2019r teulu helpu aelodau\u2019r teulu i ddod o hyd i ffyrdd o gefnogi a helpu ei gilydd, datblygu eu sgiliau cyfathrebu ymhellach, a\u2019u gallu i ddelio \u00e2 gwahaniaethau. Mae\u2019n digwydd mewn amgylchedd diogel a chefnogol lle mae\u2019r ffocws ar ganfod a hybu cryfderau ac adnoddau\u2019r teulu a lle ymdrinnir \u00e2 phroblemau mewn ffordd gydweithredol.<\/p>\n
Efallai y bydd eich meddyg teulu yn gallu eich cyfeirio at wasanaeth cwnsela rhad ac am ddim, ond fel arall mae\u2019n debygol y bydd disgwyl ichi dalu.<\/p>\n
Wrth ichi ysgaru neu wahanu efallai y gwelwch nad ydych ar gael i\u2019ch plentyn gymaint ag yr hoffech fod. Gall eich plentyn wedyn ddechrau cadw ei deimladau a\u2019i bryderon iddo ef\/hi ei hun, gan feddwl y gallai siarad \u00e2 chi roi mwy o faich a gofid arnoch. Gallwch ofyn i\u2019r ysgol a oes cwnselydd ieuenctid ar y safle. Gall cwnsela i ieuenctid roi cyfle i blentyn siarad am ei ofnau a\u2019i bryderon heb y pryder ychwanegol o\u2019ch poeni chi.<\/p>\n
Mae cwnsela yn un o ystod o wasanaethau sy\u2019n helpu i gefnogi anghenion iechyd, emosiynol a chymdeithasol disgyblion ac mae\u2019n arwain at ddiwylliant ysgol iach. Mae tystiolaeth yn dangos y gall gwasanaeth cwnsela sy\u2019n darparu cymorth o fewn strategaeth gyffredinol yr ysgol hybu lles pobl ifanc yn effeithiol iawn. Os oes arnoch angen help gyda sut mae\u2019ch plentyn yn teimlo, siaradwch \u00e2\u2019ch meddyg teulu, eich cynghorydd ysgol, neu gyda gweithiwr iechyd arall.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"
Efallai yr hoffech ystyried gwasanaeth cwnsela os ydych yn teimlo eich bod \u201cyn methu \u00e2 symud\u201d o un o\u2019r camau colled er mwyn: eich helpu i ddatrys emosiynau sy\u2019n gwrthdaro \u00e2\u2019i gilydd eich helpu drwy gyfnod o newid eich helpu i fynegi eich teimladau helpu eich plant i fynegi eu teimladau a theimlo cefnogaeth. Cwnsela […]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":15,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"class_list":["post-429","page","type-page","status-publish","hentry"],"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"3.0.0","language":"cy","enabled_languages":["en","cy"],"languages":{"en":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false}}},"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/429","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=429"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/429\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1529,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/429\/revisions\/1529"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=429"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}