{"id":335,"date":"2018-03-14T14:52:45","date_gmt":"2018-03-14T14:52:45","guid":{"rendered":"http:\/\/parentingtogether.gov.wales\/%e2%80%8byour-emotional-separation\/"},"modified":"2021-04-22T15:19:19","modified_gmt":"2021-04-22T14:19:19","slug":"%e2%80%8byour-emotional-separation","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/eich-teimladau\/ochr-emosiynol-gwahanu\/","title":{"rendered":"Ochr emosiynol gwahanu"},"content":{"rendered":"

Colli perthynas<\/h2>\n

Mae galar yn rhan bwysig o\u2019r broses wahanu, a gall gwybod am wahanol gamau colli rhywun eich helpu drwy\u2019r broses. Pan fydd partner yn marw, mae yna ddefod i\u2019w dilyn \u2013 angladd ac ati \u2013 a chydnabyddir bod galaru yn naturiol. Yn achos gwahanu, efallai nad yw\u2019r golled sy\u2019n cael ei deimlo am bartner yn cael ei chydnabod neu ei derbyn, ac nid oes defod benodol i\u2019w dilyn (er bod rhai yn ystyried proses gyfreithiol yn y ffordd hon).<\/p>\n

Mae\u2019n bosibl bod y ddau ohonoch ar gamau gwahanol iawn yn eich colled. Mae\u2019r un sy\u2019n penderfynu gadael yn aml eisoes wedi profi llawer o\u2019r teimladau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 galar a cholled cyn gadael y berthynas, ond nid yw\u2019r llall wedi profi hynny eto.<\/p>\n

Daw llawer o golledion yn sgil diwedd perthynas \u2013 colli bod yn rhan o deulu, colli partner, colli cynlluniau ar gyfer y dyfodol ac amcanion fel cwpwl, colli r\u00f4l gw\u02c6 r, gwraig neu gariad, a cholli statws cwpwl. Mae llawer yn gorfod symud o\u2019r cartref lle maent wedi bod yn byw yn ystod y berthynas, ac felly yn colli hwnnw hefyd. Gall y ddau riant hefyd deimlo colli eu perthynas gyda\u2019u plentyn pan fydd gyda\u2019r rhiant arall. Nid yr oedolion yn unig sy\u2019n teimlo\u2019r golled hon, mae\u2019r plentyn hefyd yn ei theimlo.<\/p>\n

Emosiynau<\/h2>\n

Mae ysgaru neu wahanu yn fater personol a bydd yn brofiad gwahanol i bawb. Gallech deimlo rhyddhad bod eich perthynas wedi dod i ben neu deimlo\u2019n fethiant am eich bod yn ddi-rym i atal dod \u00e2\u2019r berthynas i ben. Efallai bod y ddau ohonoch wedi penderfynu mai ysgariad yw\u2019r ffordd ymlaen, neu efallai bod un ohonoch yn teimlo\u2019n fwy si\u0175r am wahanu na\u2019r llall.<\/p>\n

Os mai chi sydd wedi penderfynu gadael y berthynas, efallai eich bod wedi bod yn meddwl am y peth ers amser hir, yn ceisio magu\u2019r dewrder i adael, gan wneud ichi deimlo\u2019n euog efallai.<\/p>\n

Os mai chi sydd wedi cael eich gadael, efallai ei fod yn sioc ichi ac efallai eich bod yn teimlo wedi\u2019ch gwrthod neu wedi\u2019ch taflu i\u2019r naill ochr.<\/p>\n

Os yw\u2019r gwahanu yn sydyn ac yn ddirybudd, gallai eich teimladau fod yn gryfach na phe bai\u2019r berthynas wedi bod yn dod i ben dros gyfnod hir. Rydych hefyd yn debygol o deimlo\u2019n gryfach os mai chi sydd wedi cael eich gadael nag os mai chi sydd wedi penderfynu mynd.<\/p>\n

Gall poen gwahanu fod yn ddwfn ac yn ddwys. Gall fod yn boen corfforol wrth ichi deimlo bod eich calon wedi\u2019i thorri\u2019n llythrennol. Gall eich emosiynau hefyd effeithio ar eich gallu i wneud penderfyniadau a gwneud ichi deimlo\u2019n flinedig ac yn ddiegni, er bod hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Colli perthynas Mae galar yn rhan bwysig o\u2019r broses wahanu, a gall gwybod am wahanol gamau colli rhywun eich helpu drwy\u2019r broses. Pan fydd partner yn marw, mae yna ddefod i\u2019w dilyn \u2013 angladd ac ati \u2013 a chydnabyddir bod galaru yn naturiol. Yn achos gwahanu, efallai nad yw\u2019r golled sy\u2019n cael ei deimlo am […]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":0,"parent":320,"menu_order":1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-templates\/section-page.php","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"2.12.2","language":"cy","enabled_languages":["en","cy"],"languages":{"en":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false}}},"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/335"}],"collection":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=335"}],"version-history":[{"count":20,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/335\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1496,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/335\/revisions\/1496"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/320"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=335"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}