{"id":333,"date":"2018-03-14T14:52:36","date_gmt":"2018-03-14T14:52:36","guid":{"rendered":"http:\/\/parentingtogether.gov.wales\/tips-for-contact\/"},"modified":"2021-04-22T15:23:04","modified_gmt":"2021-04-22T14:23:04","slug":"tips-for-contact","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/eich-perthynas\/awgrymiadau-am-gyswllt\/","title":{"rendered":"Awgrymiadau am gyswllt"},"content":{"rendered":"
    \n
  1. Dylai plant deimlo bod ganddynt gartref gyda\u2019r ddau riant, ni waeth faint o amser maent yn eidreulio gyda nhw<\/li>\n
  2. Disgwyliwch wrthwynebiad gan blant wrth iddynt addasu<\/li>\n
  3. Peidiwch \u00e2 defnyddio plant fel negeseuwyr rhyngoch<\/li>\n
  4. Ceisiwch beidio \u00e2 beirniadu, gweld bai, na chymharu\u2019r ddau gartref.<\/li>\n<\/ol>\n

    Pan fo hynny\u2019n bosibl ac yn ddiogel, mae angen i blant dreulio amser gyda\u2019r ddau riant. Os bydd eich plentyn yn dweud nad yw am eich gweld, peidiwch \u00e2 diystyru eu teimladau na\u2019u gwrthod hwythau o\u2019r herwydd. Gwrandewch ar yr hyn y maent yn ei ddweud, ceisiwch ganfod a oes rheswm, a pheidiwch \u00e2 beio eich plentyn am eich gwrthod.<\/p>\n

    Weithiau mae plant yn credu bod un rhiant yn dda i gyd ac un rhiant yn ddrwg i gyd. Os bydd hyn yn digwydd, atgoffwch nhw o\u2019r amseroedd da a gawsoch gyda\u2019ch gilydd cyn y gwahanu. Mae plant yn meddwl amdanynt eu hunain fel hanner Mam, hanner Dad, ac os nad ydynt yn cael caru\u2019r ddau riant, gallant, yn y pen draw, wrthod rhan ohonynt eu hunain. Felly ceisiwch beidio \u00e2 beirniadu na beio eich gilydd o flaen eich plentyn ond atgoffwch nhw fod yna \u201cdda\u201d a \u201cdrwg\u201d ym mhob un ohonom.<\/p>\n

    Mae plant yn wydn a gallant fyw gyda rheolau teuluol gwahanol os gwyddant beth i\u2019w ddisgwyl. Os bydd eich plentyn yn dweud pethau fel \u201cMae Mam yn gwneud hyn yn wahanol\u201d neu \u201cDyw Dad ddim yn gwneud pethau fel \u2018na\u201d, atgoffwch nhw mai mater i\u2019r rhiant ydy gosod y ffiniau ac, er eich bod yn gwneud pethau\u2019n wahanol, fod y ddau ohonoch yn eu caru a\u2019i bod yn iawn cael gwahanol reolau mewn gwahanol gartrefi.<\/p>\n

    Dylech osgoi holi eich plentyn beth sy\u2019n digwydd yn y cartref arall \u2013 gall deimlo fel petai\u2019n cael ei groesholi. Pryd bynnag y bo modd, cyfathrebwch yn uniongyrchol \u00e2 rhiant arall eich plentyn.<\/p>\n

    Ceisiwch beidio \u00e2 chystadlu gyda\u2019r rhiant arall yngl\u0177n \u00e2 phwy sy\u2019n rhoi\u2019r anrheg penblwydd mwyaf, neu roi anrhegion ag amodau. Os rhoddwch anrhegion mawr, meddyliwch ym mha aelwyd y bydd yn aros, ac os yw\u2019n aros yn eich cartref chi, mae\u2019n well rhoi gwybod i\u2019r plentyn ymlaen llaw.<\/p>\n

    Bydd rhoi gwybodaeth i blant am yr hyn sy\u2019n digwydd a\u2019r hyn i\u2019w ddisgwyl yn gwneud iddynt deimlo\u2019n fwy diogel. Er enghraifft, gallech roi dyddiadau allweddol ar galendr gyda\u2019ch gilydd. Fodd bynnag, nid yw popeth mewn bywyd yn rhagweladwy ac mae\u2019n bosibl y bydd angen i newidiadau gael eu gwneud. Meddyliwch bob amser am yr hyn sydd er lles gorau eich plentyn a rhoi gwybod iddynt am unrhyw newidiadau.<\/p>\n

    Cynghorion pellach am gyswllt<\/h2>\n
      \n
    1. Datblygwch berthynas o gyd-barch gyda\u2019r rhiant arall gyda\u2019r ffocws ar les gorau eich plentyn<\/li>\n
    2. Lle bynnag y bo modd byddwch yn hyblyg ac yn barod i gyfaddawdu<\/li>\n
    3. Peidiwch \u00e2 thrafod pethau a all arwain at ffrae o flaen eich plentyn<\/li>\n
    4. Os ydych yn pryderu am wrthdaro pan gaiff y plentyn ei drosglwyddo o un rhiant i\u2019r llall, ceisiwchfeddwl am fesurau diogelwch y gallech eu defnyddio<\/li>\n
    5. Cofiwch fod y rhiant y mae eich plentyn yn byw gydag ef\/hi yn debygol o fod yn teimlo\u2019nwahanol i\u2019r rhiant arall.<\/li>\n<\/ol>\n

      Canolbwyntiwch eich sgyrsiau ar yr hyn sydd orau ar gyfer eich plentyn, cyfathrebwch mewn modd sy\u2019n dangos parch at eich gilydd am anghenion eich plentyn \u2013 pethau fel apwyntiadau meddygol, nosweithiau rhieni, diwrnodau chwaraeon a phart\u00efon pen-blwydd.<\/p>\n

      Os yw eich plentyn yn dweud pethau am yr hyn a ddywedodd neu a wnaeth rhiant arall eich plentyn a bod hynny\u2019n ennyn teimladau cryf ynoch \u2013 peidiwch \u00e2 gorymateb na dial, oherwydd mae hyn yn rhoi eich plentyn yn y canol.<\/p>\n

      Fodd bynnag, os oes gennych bryderon cryf am y gwrthdaro a allai godi pan fyddwch yn trosglwyddo eich plentyn, mae rhai pethau y gallwch eu gwneud fel cael oedolyn arall yn bresennol, trosglwyddo mewn lle cyhoeddus ac yng ngolau dydd, cael ffrind neu aelod o\u2019ch teulu i drosglwyddo drosoch, neu ddefnyddio canolfan gyswllt.<\/p>\n

      Er bod pawb yn wahanol, os mai gyda chi y mae\u2019r plentyn yn byw, efallai y byddwch yn teimlo mai chi yw\u2019r un sydd \u00e2\u2019r holl gyfrifoldeb ac nad oes gennych ddim amser i chi eich hun, ond o safbwynt y rhiant arall, efallai y byddwch yn hiraethu am y teimlad o fod yn deulu ac yn teimlo ar goll, a ddim yn gwybod sut i lenwi eich amser.<\/p>\n

      Hyd yn oed os ydych mewn fflat un ystafell wely, mae\u2019n bwysig dod o hyd i le i eiddo eich plentyn, hyd yn oed os yw ddim ond yn gornel mewn ystafell. Bydd hyn yn eu helpu i deimlo eu bod yn dal i fod yn rhan bwysig o\u2019ch bywyd ac yn eu helpu i deimlo\u2019n fwy diogel. Peidiwch \u00e2 thrin eich plentyn fel gwestai yn eich cartref \u2013 ceisiwch greu gweithgareddau a defodau teuluol newydd sy\u2019n eu helpu i deimlo\u2019n fwy diogel.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

      Dylai plant deimlo bod ganddynt gartref gyda\u2019r ddau riant, ni waeth faint o amser maent yn eidreulio gyda nhw Disgwyliwch wrthwynebiad gan blant wrth iddynt addasu Peidiwch \u00e2 defnyddio plant fel negeseuwyr rhyngoch Ceisiwch beidio \u00e2 beirniadu, gweld bai, na chymharu\u2019r ddau gartref. Pan fo hynny\u2019n bosibl ac yn ddiogel, mae angen i blant dreulio […]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":0,"parent":319,"menu_order":2,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-templates\/section-page.php","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"2.12.2","language":"cy","enabled_languages":["en","cy"],"languages":{"en":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false}}},"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/333"}],"collection":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=333"}],"version-history":[{"count":17,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/333\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1503,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/333\/revisions\/1503"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/319"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=333"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}