{"id":327,"date":"2018-03-14T14:52:14","date_gmt":"2018-03-14T14:52:14","guid":{"rendered":"http:\/\/parentingtogether.gov.wales\/listening-to-your-child-after-separation\/"},"modified":"2021-04-22T15:15:10","modified_gmt":"2021-04-22T14:15:10","slug":"listening-to-your-child-after-separation","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/siarad-gyda-a-gwrando-ar-blant\/gwrando-ar-eich-plentyn-ar-ol-gwahanu\/","title":{"rendered":"Gwrando ar eich plentyn ar \u00f4l gwahanu"},"content":{"rendered":"

Mae gwahanu fel arfer yn anodd yn emosiynol i rieni ac i\u2019r plentyn, ond gall y gallu i wrando\u2019n dda iawn ar eich plentyn fod yn allweddol i\u2019w helpu nhw \u2013 a chithau. Ni waeth pa mor galed rydych yn ceisio cuddio eich emosiynau, mae\u2019n debygol iawn y bydd eich plentyn yn sylwi ar eich teimladau pryderus, gofidus neu negyddol. Gall y teimladau hyn sefyll yn ffordd gwrando. Dim ond drwy wrando yn dda a siarad yn agored \u00e2 nhw y gallwch gael gwybod beth sydd wir yn poeni eich plentyn.<\/p>\n

Pan all eich teimladau eich hun fod yn gymysgedd o ddicter, tristwch a gofid, nid yw\u2019n hawdd rhoi\u2019r teimladau hynny i\u2019r neilltu a gwir wrando ar eich plentyn. Gallai eu teimladau nhw fod yn wahanol i\u2019ch rhai chi, a gall y ffordd rydych chi\u2019n ymateb gael effaith fawr ar eu lles.<\/p>\n

Yr hyn a all eich helpu yw datblygu eich \u2018parodrwydd\u2019 emosiynol \u2013 i wir wrando ac ymateb. Mae hyn yn golygu cydnabod eich teimladau eich hun ac unrhyw feddyliau negyddol am y rhiant arall, ac yna gallu eu rhoi i\u2019r neilltu er mwyn ichi allu gwir wrando ar eich plentyn. Yna gallwch eu deall yn well ac ymateb mewn ffyrdd a all helpu.<\/p>\n

Cam 1<\/h2>\n

Mae\u2019n gyffredin iawn ichi deimlo amrywiaeth o deimladau negyddol wrth ichi wahanu, er enghraifft, pryder, dicter, tristwch, ofn neu deimlo\u2019n ddi-rym. Weithiau gall rhain eich llethu. Nid yw teimladau\u2019n diflannu wrth ichi esgus nad ydynt yno \u2013 weithiau gall hyn arwain at eu mynegi mewn ffyrdd annisgwyl.<\/p>\n

Adnabyddwch rai o\u2019r teimladau hynny ynoch chi eich hun, gan dderbyn y gallant beri gofid a hefyd gweld eu bod yn deimladau normal yn y dechrau pan fyddwch yn gwahanu. Efallai y bydd yn help ichi eu hysgrifennu ar bapur.<\/p>\n

Mae\u2019r rhain yn deimladau y bydd angen ichi eu ffrwyno pan fyddwch yn gwrando ar eich plentyn. Gall eu labelu eich helpu i deimlo bod gennych reolaeth drostynt.<\/p>\n

Cam 2<\/h2>\n

Mae\u2019r cam hwn yn ymwneud \u00e2 sgiliau cyfathrebu ac mae adran gyfathrebu\u2019r canllaw hwn yn s\u00f4n mwy am hyn.<\/p>\n

Bydd peidio \u00e2 chynhyrfu yn eich helpu i ffrwyno eich teimladau \u2013 mae ymarferion syml ond effeithiol i\u2019w cael yn yr adran gyfathrebu. Gall y rhain eich helpu i roi eich teimladau i\u2019r neilltu a dechrau canolbwyntio ar wrando ar eich plentyn. Gall fod yn ddefnyddiol ailadrodd yr ymarferion sawl gwaith.<\/p>\n

Mae dysgu gwrando yn sgil bwysig iawn, felly cymerwch ychydig o amser i feddwl am y sgiliau gwrando a\u2019u hymarfer \u2013 gallwch ymarfer gwrando gyda\u2019ch plentyn, beth bynnag maent yn ei ddweud wrthych, a gallwch wneud hyn gyda rhai o\u2019u pryderon neu\u2019u llwyddiannau dydd i ddydd cyn siarad am y pethau mwy.<\/p>\n

Mae gweld pethau\u2019n wahanol yn ymwneud \u00e2 gweld safbwynt eich plentyn a chadw eich teimladau eich hun am y rhiant arall ar wah\u00e2n. Un awgrym defnyddiol iawn wrth wrando ar eich plentyn yw peidio \u00e2 neidio i mewn yn rhy gyflym gyda\u2019ch damcaniaethau neu\u2019ch atebion eich hun \u2013 ceisiwch weld safbwynt eich plentyn.<\/p>\n

Cam 3<\/h2>\n

Mae hwn yn ymwneud \u00e2 chysuro eich plentyn \u2013 mae\u2019n bosibl y bydd yn teimlo\u2019n ddi-rym yngly\u02c6n \u00e2\u2019r hyn sy\u2019n digwydd. Fodd bynnag, dim ond yn y sefyllfaoedd canlynol y mae cysuro yn gweithio:<\/p>\n