{"id":326,"date":"2018-03-14T14:52:10","date_gmt":"2018-03-14T14:52:10","guid":{"rendered":"http:\/\/parentingtogether.gov.wales\/talking-to-your-child\/"},"modified":"2021-04-20T13:09:36","modified_gmt":"2021-04-20T12:09:36","slug":"talking-to-your-child","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/siarad-gyda-a-gwrando-ar-blant\/siarad-gydach-plentyn\/","title":{"rendered":"Siarad gyda\u2019ch plentyn"},"content":{"rendered":"

Weithiau, y plentyn yw\u2019r olaf i wybod eich bod yn gwahanu. Gall aros tan y funud olaf ymddangos fel y peth iawn i\u2019w wneud, ond os oes un rhiant yn gadael yn sydyn gall hyn fod yn sioc enfawr ac nid yw\u2019n rhoi cyfle iddynt baratoi ar gyfer y newidiadau a fydd yn digwydd. Gall fod yn demtasiwn peidio \u00e2 dweud wrthynt yn y dechrau gan ei bod yn ddigon anodd ichi ddelio \u00e2\u2019ch teimladau a\u2019ch emosiynau eich hun, heb s\u00f4n am eu rhai nhw.<\/p>\n

Pan fyddwch yn dweud wrth eich plentyn eich bod yn gwahanu, ceisiwch ateb cwestiynau mor onest a syml ag y gallwch a gwneud yn si\u0175 r eich bod yn rhoi digon o amser i hyn, fel nad oes neb yn cael ei ruthro.<\/p>\n

Dywedwch wrth eich plentyn nad nhw oedd ar fai am y penderfyniad i wahanu a bod y ddau ohonoch yn dal i\u2019w garu ef\/hi.<\/p>\n

Os yw\u2019n bosibl, trefnwch i\u2019r rhiant arall fod gyda chi wrth ichi ddweud wrthynt bod eu teimladau nhw\u2019n bwysig a\u2019i bod yn iawn iddynt deimlo\u2019n drist. Dywedwch y byddwch i gyd yn gweithio gyda\u2019ch gilydd i deimlo\u2019n well, ond y gallai hyn gymryd amser. Anogwch nhw i beidio \u00e2 chuddio eu teimladau, hyd yn oed os yw\u2019n anodd ichi glywed y teimladau hynny. Mae angen iddynt wybod y bydd y ddau ohonoch yn dal i\u2019w caru nhw ac yn dal i fod yn rhan o\u2019u bywydau, a hefyd eich bod chithau\u2019n teimlo\u2019n drist bod y teulu\u2019n chwalu a\u2019u bod nhw hefyd yn debygol o deimlo\u2019n drist. Hefyd, cofiwch ei bod yn bosibl na fyddant eisiau siarad \u00e2 chi am eu teimladau ar hyn o bryd, ond cofiwch ddweud y byddwch yno pan fyddant eisiau siarad.<\/p>\n

Siarad gyda\u2019ch plentyn:<\/h2>\n
    \n
  1. Dywedwch wrth eich plentyn beth sy\u2019n digwydd ac nad ef\/hi sydd ar fai<\/li>\n
  2. Addaswch y drafodaeth yn \u00f4l oedran a dealltwriaeth eich plentyn<\/li>\n
  3. Dywedwch wrtho\/wrthi y caiff siarad a radegau eraill hefyd<\/li>\n
  4. Gwrandewch arno ef neu hi a siarad am unrhyw deimladau<\/li>\n
  5. Peidiwch \u00e2 gofyn na disgwyl i\u2019ch plentyn ddewis ochrau<\/li>\n
  6. Ceisiwch beidio \u00e2 ffraeo, gwneud sylwadau gwawdlyd na cholli eich tymer o flaen eich plentyn.<\/li>\n<\/ol>\n

    Dyma rai cwestiynau y bydd eich plentyn eisiau atebion iddynt o bosibl:<\/h3>\n
      \n
    • \u201cFyddaf i\u2019n gallu gweld Taid a Nain?\u201d<\/li>\n
    • \u201cLle bydd Mam a Dad yn byw?\u201d<\/li>\n
    • \u201cGaf fi ddal fynd i\u2019r sgowtiaid\/clwb ieuenctid\/t\u0177 ffrindiau?\u201d<\/li>\n
    • “Gyda phwy y byddaf i\u2019n byw?\u201d<\/li>\n
    • \u201cA oes rhaid imi newid ysgol?\u201d<\/li>\n
    • “Lle bydd fy anifail anwes yn byw?\u201d<\/li>\n
    • \u201cBeth am y gwyliau\u2019r oeddem i fod i fynd arno?\u201d<\/li>\n<\/ul>\n

      Cofiwch:<\/h2>\n
        \n
      • Bydd y rhan fwyaf o blant yn ymdopi\u2019n iawn a gall newidiadau bach yn eich ymddygiad chi wneud gwahaniaeth mawr.<\/li>\n
      • Mae eich perthynas fel cwpwl drosodd ond \u2018dyw eich perthynas fel rhieni ddim. Efallai eich bod wedi gwahanu beth amser yn \u00f4l, ond mae siarad \u00e2\u2019ch plentyn yn dal yn bwysig ac efallai bod rhai o\u2019r cynghorion hyn yn rhywbeth ichi eu hystyried nawr.<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

        Weithiau, y plentyn yw\u2019r olaf i wybod eich bod yn gwahanu. Gall aros tan y funud olaf ymddangos fel y peth iawn i\u2019w wneud, ond os oes un rhiant yn gadael yn sydyn gall hyn fod yn sioc enfawr ac nid yw\u2019n rhoi cyfle iddynt baratoi ar gyfer y newidiadau a fydd yn digwydd. Gall […]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":0,"parent":318,"menu_order":1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-templates\/section-page.php","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"class_list":["post-326","page","type-page","status-publish","hentry"],"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"3.0.0","language":"cy","enabled_languages":["en","cy"],"languages":{"en":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false}}},"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/326","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=326"}],"version-history":[{"count":21,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/326\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1488,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/326\/revisions\/1488"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/318"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=326"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}