{"id":323,"date":"2018-03-14T14:51:57","date_gmt":"2018-03-14T14:51:57","guid":{"rendered":"http:\/\/parentingtogether.gov.wales\/what-children-need\/"},"modified":"2021-04-22T15:09:26","modified_gmt":"2021-04-22T14:09:26","slug":"what-children-need","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/cefnogi-plant\/beth-mae-plentyn-ei-angen\/","title":{"rendered":"Beth mae plentyn ei angen"},"content":{"rendered":"

Gall gweld neu glywed rhieni yn ffraeo neu\u2019n lladd ar ei gilydd yn barhaus gael effaith fawr ar y ffordd y mae plant yn addasu i\u2019r ffaith bod eu rhieni\u2019n gwahanu. Mae angen iddynt allu gwahanu eu hunain oddi wrth y gwrthdaro a pheidio \u00e2 theimlo fel pe baent yn cael eu dal yn y canol.<\/p>\n

Gallwch ddysgu eich plentyn bod yna ffyrdd positif o ddelio \u00e2 gwrthdaro drwy ddysgu\u2019r ffyrdd hynny eich hun.<\/p>\n

Gall plentyn dderbyn newid cyn belled nad oes gormod yn digwydd ar y tro a\u2019u bod yn gwybod beth i\u2019w ddisgwyl. Os ydynt yn teimlo bod lle iddynt yn y ddau gartref byddant yn teimlo\u2019n fwy diogel.<\/p>\n

Weithiau gall plentyn gymryd gormod o gyfrifoldeb a \u201cbod yn rhiant\u201d i\u2019w rhieni a\u2019u brodyr a\u2019u chwiorydd. Gall rhywun sy\u2019n edrych ar blentyn sy\u2019n ymddwyn fel hyn yn hawdd feddwl eu bod yn ymdopi\u2019n dda iawn ac nad ydynt yn gofidio\u2019n ormodol. Gall hyn ddigwydd yn aml pan fo rhieni dan straen. Fodd bynnag, efallai na fydd effaith hyn yn ymddangos nes bydd eich plentyn yn dod yn oedolyn a gall effeithio ar eu perthnasoedd fel oedolion.<\/p>\n

Efallai y gwelwch fod eich plentyn yn help mawr i chi ac yn ymdopi\u2019n dda iawn, ond wrth ichi ddechrau dod dros ddiwedd eich perthynas gall ymddangos nad yw eich plentyn yn ymdopi mwyach a\u2019i fod yn eithaf gofidus. Bydd angen ichi wedyn adael iddynt ymddwyn fel plentyn a rhoi gwybod ei bod yn iawn teimlo\u2019n drist neu\u2019n ddig. Mae\u2019n bosibl i\u2019r plentyn fynd yn \u00f4l i gam datblygiadol cynharach; dros dro yn unig fydd hyn. Rhowch amser a sylw i\u2019ch plentyn a hefyd ei annog i siarad ag athro\/athrawes mae\u2019n ymddiried ynddo\/ynddi, aelod o\u2019r teulu neu gwnselydd.<\/p>\n

Gall plentyn gael ymdeimlad mawr o golled pan fydd rhieni\u2019n gwahanu a gall neiniau a theidiau ac aelodau eraill o\u2019r teulu chwarae rhan bwysig iawn yn eu bywyd. Gall cadw mewn cysylltiad roi iddynt ymdeimlad parhaus o deulu, cariad, a pherthyn, hyd yn oed pan mae pethau ar eu hanoddaf. Mae ffrindiau hefyd yn gallu rhoi cysur ac ymdeimlad o barhad \u2013 siaradwch gyda\u2019ch plentyn am y bobl bwysig o\u2019u cwmpas a sut gallant gadw mewn cysylltiad, yn enwedig os ydych yn ystyried symud t\u0177. Weithiau efallai y bydd angen cefnogaeth ychwanegol ar blentyn; gallwch siarad ag athrawon eich plentyn neu eich meddyg teulu os ydych yn teimlo y gallai cwnsela fod o gymorth.<\/p>\n

Beth mae plentyn ei angen:<\/h2>\n
    \n
  1. Cael caniat\u00e2d i ymbellhau oddi wrth wrthdaro eu rhieni<\/li>\n
  2. Cael trefn gyda ffiniau cyson o fewn yr un cartref<\/li>\n
  3. Gwybod bod ganddynt ddau gartref lle maent yn perthyn<\/li>\n
  4. Gallu cadw mewn cysylltiad \u00e2\u2019u teulu estynedig fel neiniau a theidiau, modrybedd, ewythrod a chefndryd a chyfnitherod<\/li>\n
  5. Cael mynediad i fathau eraill o gymorth os ydynt yn dymuno hynny<\/li>\n
  6. Cael gobaith ar gyfer y dyfodol<\/li>\n
  7. Yn anad dim \u2013 cael yr hawl i fod yn blentyn.<\/li>\n<\/ol>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

    Gall gweld neu glywed rhieni yn ffraeo neu\u2019n lladd ar ei gilydd yn barhaus gael effaith fawr ar y ffordd y mae plant yn addasu i\u2019r ffaith bod eu rhieni\u2019n gwahanu. Mae angen iddynt allu gwahanu eu hunain oddi wrth y gwrthdaro a pheidio \u00e2 theimlo fel pe baent yn cael eu dal yn y […]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":0,"parent":317,"menu_order":1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-templates\/section-page.php","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"2.12.2","language":"cy","enabled_languages":["en","cy"],"languages":{"en":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false}}},"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/323"}],"collection":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=323"}],"version-history":[{"count":13,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/323\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1480,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/323\/revisions\/1480"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/317"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=323"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}