{"id":322,"date":"2018-03-14T14:51:53","date_gmt":"2018-03-14T14:51:53","guid":{"rendered":"http:\/\/parentingtogether.gov.wales\/looking-ahead\/"},"modified":"2021-04-22T14:48:51","modified_gmt":"2021-04-22T13:48:51","slug":"looking-ahead","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/edrych-ymlaen\/","title":{"rendered":"Edrych Ymlaen"},"content":{"rendered":"

Gwneud dewisiadau<\/h2>\n

Nawr eich bod wedi dod i ddiwedd y canllaw hwn, mae\u2019n amser meddwl eto am y dyfodol, a\u2019r dewisiadau sydd gennych. Gallwch barhau fel o\u2019r blaen, neu benderfynu gwneud rhai newidiadau yn eich bywyd. Wrth ichi feddwl am y dyfodol a\u2019r cyfleoedd sydd o\u2019ch blaenau, cofiwch sut byddech chi eisiau i\u2019ch plentyn weld y cam hwn yn eu bywydau pan fyddant yn oedolion. Beth am ddigwyddiadau yn y dyfodol, ee perfformiadau ysgol neu briodasau hyd yn oed? A fyddant am i\u2019w rhieni fod yn ymladd o hyd?<\/p>\n

Rydym wedi gweld nad yr ysgariad neu\u2019r gwahanu sy\u2019n achosi problemau i blant wrth iddynt dyfu, ond y gwrthdaro sy\u2019n deillio ohono. Os oes gwrthdaro rhyngoch chi a rhiant arall eich plentyn, mae gwahanol opsiynau ar gael i chi.<\/p>\n

Cadw pethau fel y maen nhw?<\/h3>\n

Mae yna ddywediad…\u201cOs ydych yn dal i wneud yr un hen bethau, yr un hen bethau fyddwch chi wastad yn eu cael…\u201d<\/strong><\/em><\/p>\n

Os oes llawer o wrthdaro rhyngoch chi a rhiant arall eich plentyn, gallech barhau i ddadlau, a\u2019ch plentyn yn sownd yn y canol. Gallech hefyd barhau i feddwl eich bod chi\u2019n gwneud yr hyn sydd orau i\u2019ch plentyn ac mai rhiant arall eich plentyn sydd ar fai yn llwyr.<\/p>\n

Efallai eich bod yn gyfarwydd \u00e2 mynd i\u2019r llys a chael barnwr yn gwneud penderfyniadau am eich plentyn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn mynd i\u2019r afael ag unrhyw anawsterau emosiynol a all arwain at broblemau pellach. Gall fod yn demtasiwn bod eisiau cael cyfreithiwr sydd ar eich ochr chi, a gall y syniad o ennill pwynt cyfreithiol ymddangos yn ddeniadol, yn enwedig os ydych yn teimlo\u2019n gryf mai chi sy\u2019n iawn. Os oes angen ichi gael eich profi\u2019n iawn, a\u2019ch bod yn meddwl y bydd mynd i\u2019r llys yn sicrhau hyn, ceisiwch edrych ar y sefyllfa o safbwynt eich plentyn a holi eich hun sut y bydd hyn yn eu helpu nhw yn y tymor hir.<\/p>\n

Gwneud rhai newidiadau?<\/h3>\n

Gallwch benderfynu negodi ar eich pen eich hun, ymgynghori \u00e2 chyfreithiwr am gyngor cyfreithiol neu, os yw\u2019n rhy anodd ichi siarad ar eich pen eich hun, gallwch ddefnyddio gwasanaeth cyfryngu i\u2019ch helpu i wneud yr hyn rydych chi am ei gyflawni.<\/p>\n

Gall canolbwyntio ar y newidiadau y gallwch chi eu gwneud, yn hytrach na gobeithio am newidiadau yn rhiant arall eich plentyn wneud gwahaniaeth aruthrol i brofiad eich plentyn o\u2019r broses wahanu. Gallwch ddefnyddio\u2019r cynghorion yn y canllaw hwn; cofiwch fod newidiadau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.<\/p>\n

Cliciwch isod i lawrlwytho taflen waith i ysgrifennu eich syniadau. Nid yw osgoi gwrthdaro yn hawdd o reidrwydd, a bydd angen ichi ymbellhau o unrhyw emosiynau cryf a chydweithredu mewn ffordd ymarferol. Hyd yn oed os na fydd rhiant arall eich plentyn yn ceisio newid, fe fyddwch chi\u2019n gwybod eich bod wedi ceisio gwneud y peth iawn. Efallai na fyddwch yn llwyddo bob amser; fodd bynnag, drwy wneud ychydig yn well nawr, bydd yna fudd i chi a\u2019ch plentyn yn y tymor hir.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Gwneud dewisiadau Nawr eich bod wedi dod i ddiwedd y canllaw hwn, mae\u2019n amser meddwl eto am y dyfodol, a\u2019r dewisiadau sydd gennych. Gallwch barhau fel o\u2019r blaen, neu benderfynu gwneud rhai newidiadau yn eich bywyd. Wrth ichi feddwl am y dyfodol a\u2019r cyfleoedd sydd o\u2019ch blaenau, cofiwch sut byddech chi eisiau i\u2019ch plentyn weld […]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":6,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-templates\/section-index.php","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"2.12.2","language":"cy","enabled_languages":["en","cy"],"languages":{"en":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false}}},"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/322"}],"collection":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=322"}],"version-history":[{"count":16,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/322\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1464,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/322\/revisions\/1464"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=322"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}