{"id":321,"date":"2018-03-14T14:51:09","date_gmt":"2018-03-14T14:51:49","guid":{"rendered":"http:\/\/parentingtogether.gov.wales\/let-your-children-be-children\/"},"modified":"2021-04-22T15:08:35","modified_gmt":"2021-04-22T14:08:35","slug":"let-your-children-be-children","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/cefnogi-plant\/gadewch-ich-plant-fod-yn-blant\/","title":{"rendered":"Gadewch i\u2019ch plant fod yn blant"},"content":{"rendered":"

Mae gwahanu yn anodd i bawb ac rydych o bosibl yn teimlo eich bod yn amddiffyn eich plentyn drwy gadw pethau oddi wrthynt. Fodd bynnag, mae plant yn aml yn teimlo\u2019n ddi-rym ac yn ddryslyd os nad ydynt yn gwybod beth sy\u2019n digwydd. Gallwch eu helpu drwy ddweud wrthynt mewn ffordd sy\u2019n hawdd iddynt ddeall; nid oes angen iddynt wybod pob manylyn, ond mae angen iddynt wybod am y pethau a fydd yn effeithio arnyn nhw.<\/p>\n

Bydd plentyn yn aml yn credu ei fod wedi gwneud rhywbeth i achosi i\u2019w rieni wahanu ac mai ef\/hi sydd ar fai. Mae angen i\u2019r ddau riant roi gwybod iddynt nad nhw sydd ar fai gan gofio y gallai fod angen ichi ddweud hyn fwy nag unwaith wrthynt.<\/p>\n

Gall fod yn anodd cydnabod teimladau eich plentyn. Nid oes unrhyw un yn hoffi gweld eu plentyn yn brifo a gall fod yn demtasiwn ceisio gwneud pethau\u2019n well drwy brynu danteithion neu anrhegion drud iddynt. Gall hyn arwain at broblemau yn y dyfodol oherwydd buan iawn y byddant yn dysgu bod teimlo\u2019n drist a chrio yn golygu y bydd Mam neu Dad yn eu \u201cdifetha\u201d nhw. Mae angen iddynt deimlo eu bod yn gallu mynegi eu teimladau heb gael eu dysgu i droi at gysuron i\u2019w helpu. Helpwch nhw i ddweud wrthych sut maen nhw\u2019n teimlo a mynegi eu hunain mewn ffyrdd iach; dywedwch wrthynt ei bod yn iawn teimlo\u2019n drist a chrio, a dywedwch wrthynt eich bod chithau\u2019n teimlo\u2019n drist weithiau hefyd.<\/p>\n

Nid oes angen i blentyn deimlo mai eu cyfrifoldeb nhw ydy gwneud penderfyniadau ond mae angen eu holi ac iddynt deimlo eu bod wedi cael gwrandawiad. Gallwch wrando arnynt pan fyddant yn dweud wrthych beth maent ei eisiau, a hefyd ei gwneud yn glir y byddwch yn rhoi ystyriaeth i\u2019w teimladau er na allwch bob amser roi popeth y maent ei eisiau iddynt. Drwy wneud hyn byddwch yn dangos iddynt eich bod yn deall sut maen nhw\u2019n teimlo.<\/p>\n

Bydd plentyn yn aml yn poeni am gael eu gadael gan eu rhieni; wedi\u2019r cyfan os ydych wedi gadael eich gilydd gallech wneud yr un peth iddynt hwy. Mae\u2019n bwysig eich bod yn rhoi gwybod iddynt, hyd yn oed os ydy rhieni\u2019n gallu stopio caru ei gilydd, bod y cariad sydd gennych atyn nhw yn para am byth a\u2019i bod yn iawn iddyn nhw garu\u2019r ddau riant heb orfod cymryd ochrau.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Mae gwahanu yn anodd i bawb ac rydych o bosibl yn teimlo eich bod yn amddiffyn eich plentyn drwy gadw pethau oddi wrthynt. Fodd bynnag, mae plant yn aml yn teimlo\u2019n ddi-rym ac yn ddryslyd os nad ydynt yn gwybod beth sy\u2019n digwydd. Gallwch eu helpu drwy ddweud wrthynt mewn ffordd sy\u2019n hawdd iddynt ddeall; […]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":0,"parent":317,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-templates\/section-page.php","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"2.12.2","language":"cy","enabled_languages":["en","cy"],"languages":{"en":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false}}},"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/321"}],"collection":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=321"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/321\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1478,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/321\/revisions\/1478"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/317"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parentingtogether.gov.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=321"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}